Tuesday, 7 July 2009
FAIRTRADE DIRECTORY - CYFEIRLYFR RHYDAMAN
Rhydaman oedd y dref Masnach Deg cyntaf yng Nghymru yn 2002. Mae statws Tref Masnach Deg Rhydaman eisiau ei adnewyddu eto mis hwn, ac mae Phil Broadhurst yn annog unrhyw siopau neu sefydliadau sydd yn gwerthu nwyddau Masnach Deg i gysylltu ag ef ar gyfer rhoi’r gwybodaeth ar ein cais adnewyddu, hefyd er mwyn ei roi ar gyfeirlyfr ar y we ar gyfer y dref. Esboniodd Phil “Erbyn hyn mae cymaint o bobl yn defnyddio a gwerthu nwyddau Masnach Deg yn y dref fel nad ydym yn gwybod amdanynt i gyd, sydd wrth gwrs yn newyddion da, ond rydym eisiau i’n cais â’r cyfeirlyfr fod mor gyflawn â phosib, felly rydym yn gofyn i bobl gysylltu a ni ar 01269 596933 neu riversidepicnic@yahoo.co.uk ."
Monday, 6 July 2009
AMMANFORD CARNIVAL - CARNIFAL RHYDAMAN
The Rotary's refreshments tent will be serving fairtrade teas and coffees, and 2activate's stall will be serving up fairtrade frappes.
Ammanford fairtrade group member Phil Broadhurst said : "When you buy fairtrade products, you know that some of the money you pay is going to help the producers' communities, perhaps building a school, a well, or providing better healthcare.
It's good to know that at the Carnival we can enjoy the coming together of our own community while at the same time helping other communities around the world."
Bydd cefnogwyr Masnach Deg Rhydaman yn cynorthwyo i gadw pobl mewn bwyd a diod yng ngharnifal Rhydaman dydd Sawdrn 11 Gorffennaf. Bydd pabell lluniaeth y Rotari yn gweini te a choffi masnach deg, a bydd stondin 2activate yn gwerthu ffrappes masnach deg. Yn ôl Phil Broadhurst, aelod o bwyllgor masnach deg y dref, “Pan fyddwch yn prynu nwyddau masnach deg , rydych yn gwybod bod peth o’r arian yn mynd at gymunedau’r cynyrchwyr, efallai i adeiladu ysgol, neu ffynnon, neu i ddarparu gwell gofal iechyd. Mae’n braf gwybod drwy weld y gymuned leol yn mwynhau ei hunain yng ngharnifal y dref ein bod ar yr un pryd yn cefnogi cymunedau ar draws y byd.”
BANANA SPLIT RHYDAMAN AR WEFAN Y BBC - AMMANFORD'S BANANA SPLIT ON BBC WEBSITE
A Welsh language article about the Giant Banana Split during Fairtrade Fortnight has just popped up on the BBC website. For more information go to http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/papurau_bro/glo_man/newyddion/ebrill09.shtml
Friday, 19 June 2009
WALES CELEBRATES FAIR TRADE NATION FIRST ANNIVERSARY
Wales became the world’s first fair trade nation in June 2008 following a two-year campaign by the organisation Fair Trade Wales. This was funded by the Welsh Assembly Government to increase the awareness of fair trade products across Wales and encourage schools, businesses and other organisations to switch to Fair Trade.
Since becoming a Fair Trade Nation:
* 11 more towns have set up Fair Trade groups, meaning that 70% of Welsh towns are now actively supporting and promoting Fair Trade
* a total of 600 schools in Wales are now registered on the Fairtrade School Scheme (approximately a fifth of all UK schools on the scheme)
* the National Eisteddfod and Hay Literary Festivals agreed to adopt Fair Trade policies
* Arriva Trains Wales have switched to Fairtrade hot drinks on all of their services
* more than 40,000 people across Wales took part in activities to celebrate Fairtrade Fortnight 2009 (23 February – 8 March)
Ms Davidson said, “Wales should be proud to be the world’s first Fair Trade Nation. We have made a real difference to the everyday lives of producers, helping them trade their way out of poverty.
“Fair trade has an impact around the world. It guarantees farmers in developing countries a fair price for their products and allows them to plan for the future. It is about empowering people to help themselves and also a way for us all to play our part in Making Poverty History.”
Fair Trade guarantees farmers in developing countries a fair price for their products. Because this price is stable it allows them to plan for their future.
Fair Trade promises:
*A fair price to producers in developing countries – enough to pay a living wage
*No child labour
*Decent working conditions
*Protection of the environment
* Rights for women
*A social premium – which supports community projects such as building schools and health clinics
DATHLU PENBLWYDD CYNTAF CYMRU FEL CENEDL MASNACH DEG
Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, wedi dathlu pen-blwydd cyntaf Cymru fel Cenedl Masnach Deg.
Cymru oedd cenedl masnach deg gyntaf y byd ym mis Mehefin 2008, yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Masnach Deg Cymru. Ariannwyd hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r ymwybyddiaeth ledled Cymru o gynnyrch masnach deg ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i gynnig cynnyrch masnach deg.
Ers dod yn Genedl Masnach Deg:
* mae 11 yn rhagor o drefi wedi sefydlu grwpiau Masnach Deg, sy’n golygu bod 70% o drefi Cymru bellach yn mynd ati eu hunain i gefnogi a hyrwyddo Masnach Deg
* mae cyfanswm o 600 o ysgolion bellach wedi eu cofrestru gyda’r Cynllun Ysgolion Masnach Deg (tua un o bob pump o holl ysgolion y DU sy’n rhan o’r cynllun)
* mae’r Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Lenyddol y Gelli wedi cytuno i fabwysiadu polisïau Masnach Deg
* mae Trenau Arriva Cymru wedi newid i gynnig diodydd Masnach Deg ar bob un o’u gwasanaethau
* cymerodd dros 40,000 o bobl ledled Cymru ran mewn gweithgareddau i ddathlu Pythefnos Masnach Deg (23 Chwefror – 8 Mawrth)
Meddai Ms Davidson “Dylai Cymru fod yn falch mai hi oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cynhyrchwyr, gan eu helpu nhw i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.
“Mae masnach deg yn cael effaith ym mhob cwr o’r byd. Mae’n gwarantu pris teg i ffermwyr mewn gwledydd datblygol am eu cynnyrch ac yn caniatáu iddyn nhw gynllunio at y dyfodol. Mae’n grymuso pobl i’w helpu eu hunain a hefyd mae’n ffordd i bob un ohonom chwarae ein rhan i Roi Terfyn ar Dlodi.”
Mae Masnach Deg yn gwarantu pris teg i ffermwyr mewn gwledydd datblygol am eu cynnyrch. Oherwydd bod y pris hwn yn un cyson, mae’n eu galluogi nhw i gynllunio at y dyfodol.
Mae Masnach Deg yn addo:
*Pris teg i gynhyrchwyr mewn gwledydd datblygol – digon i dalu cyflog y mae modd byw arno
*Dim llafur plant
*Amodau gweithio gweddus
*Diogelu’r amgylchedd
*Hawliau i fenywod
*Premiwm cymdeithasol – sy’n cefnogi prosiectau cymunedol fel adeiladu ysgolion a chlinigau iechyd