Pleidleisiwch dros eich hoff baned Masnach Deg yng Nghymru drwy enwebu eich caffi neu’ch sefydliad arlwyo arall yn ein harolwg barn!
Dangoswch eich cefnogaeth i’r sefydliad arlwyo sy’n cynnig eich hoff ddiod cynnes Masnach Deg. Gallwch enwebu caffi, bwyty, tafarn, gwesty neu ganolfan gymunedol yng Nghymru.
Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost ar gyfer y gystadleuaeth i ennill basged yn llawn nwyddau Masnach Deg!
Bydd y bleidlais yn cau ar 13eg Mawrth 2011 a chaiff enw’r enillydd ei gyhoeddi ar
http://fairtradecuppa.org/pleidleisiwch-dros-hoff-baned-masnach-deg-cymru/
Sut mae pleidleisio*
Anfonwch neges destun gyda’r gair ‘CUPPA’ ac yna enw’r sefydliad rydych chi’n ei enwebu a’r dref, yn ogystal â’ch enw a’ch cyfeiriad e-bost i 78866.
Cofiwch ychwanegu eich cyfeiriad e-bost os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill basged Masnach Deg!
Nid oes costau ychwanegol am bleidleisio, bydd eich pleidlais yn costio’r un fath â’ch cyfradd neges destun SMS arferol.
Gallwch bleidleisio drwy’r post hefyd. Anfonwch enw’r sefydliad rydych chi’n ei enwebu i:
Paned Masnach Deg
Canolfan Cydweithredol Cymru
Llys Llandaf
Heol y Tyllgoed
Caerdydd
CF5 2XP
No comments:
Post a Comment