Friday, 13 May 2011

DIWRNOD MASNACH DEG Y BYD

Henffych Cefnogwyr Masanch Deg Rhydaman,

Mae dydd Sadwrn yma 14 Mai yn Ddiwrnod Masnach Deg y Byd. Bydd y prif ddigwyddiad eleni yn digwydd yn Battersea Park, Llundain pan byd dy bunting Masnach Deg enfawr yn cael ei osod I fyny.

Diolch I bawb o Rhydaman sydd wedi addurno darnau o’r bunting. Casglwyd dros 130.000 fflag.

Yn y yn y stroi uchod mae Phil Broadhurst o Grwp Masnach Deg Rhydaman yn cyflwyno fflagiau Rhydaman yn Swyddfa Fairtrade Foundation pan oedd yno ar gyfer cyfarfod o Grwp Cynghori Ymgyrchwyr Masnach Deg.

Cofiwch os ydych yn cynnal unrhwy ddigwyddiad Masnach Deg gadewch I ni wybod er mwyn eu hyrwyddo a’u cynnwys y nein ymgais nesaf ar gyfer adfer ein statws fel Tref Masnach Deg.

No comments:

Post a Comment