Dydd Sadwrn 10 Mai wnaeth dros hanner cant o gefnogwyr Masnach Deg fentro
allan yn y glaw i ymuno â'r daith gerdded Ffordd Masnach Deg o gaffi cymunedol
iSmooth yn Stryd y Coleg , Rhydaman , i’r Ganolfan Weithgareddau newydd
yn Garnswllt .
Roedd y daith, a drefnwyd i nodi Diwrnod Masnach Deg y Byd , yn un o gannoedd o ddigwyddiadau ar draws chwe chyfandir. Daeth llawer o'r cerddwyr o Glwb Sgowtiaid Rhydaman , grwpiau Cub a Beaver , gyda rhai mor ifanc â 6 . Defnyddiodd grŵp o ferched Blwyddyn 8 o Ysgol Dyffryn Aman y daith i godi arian i ariannu Gwiriadau Iechyd i Famau a phlant trwy'r cynllun Oxfam “ Unwrapped”.
Ar ddiwedd y daith, roedd caffi y Ganolfan Weithgareddau yn brysur ofnadwy yn gwerthu Siocled Poeth a chinio Pasta Masnach Deg. Hefyd roedd siopau Masnach Deg Rhydaman , Harmony a Bertram gyda stondinau stondinau yn gwerthu eu crefftau Masnach Deg. Yn ogystal roedd amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau eraill yn codi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg , gan gynnwys Helfa Drysor ar gyfer cerddwyr iau oedd gyda digon o egni ar ol wedi’r cerdded.
Meddai, Phil Broadhurst, trefnydd y daith, : "Thema dathliadau Diwrnod Masnach Deg y Byd eleni oedd Pobl Masnach Deg , ac roedd y diwrnod yn cyd fynd yn wych gyda hynny, gan ddangos y gorau o bobl mewn nifer o wahanol ffyrdd. Roedd hefyd yn hysbyseb gwych i'r pŵer o wirfoddoli . Cafodd y daith a’r digwyddiad ei drefnu gan wirfoddolwyr o Grŵp Masnach Deg Rhydaman. Roedd y staff yn y Ganolfan Weithgareddau yn wirfoddolwyr ac mae'r arweinwyr Sgowtiaid yn wirfoddolwyr. Roedd ystod oedran y cerddwyr ar y daith hefyd yn ei gwneud hi deimlo fel digwyddiad cymunedol go iawn. " Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad pleserus a thaith hyfryd, ni aeth pwyntiau difrifol y tu ôl i’r dydd, sef hyrwyddo Masnach Deg a helpu pobl mewn angen o gwmpas y byd , yn angof.

Sefydlwyd Rhydaman fel tref Masnach Deg cyntaf yng Nghymru yn 2002 ac
mae wedi arwain y ffordd yn gyson drwy ymgyrchu ar gyfer masnach decach ac
annog pobl i brynu cynnyrch Masnach Deg , sy'n gwarantu cynhyrchwyr y cynhyrchion
hynny bris teg . Mae'r
premiwm Masnach Deg hefyd yn helpu cymunedau i dalu am ysgolion, canolfannau
iechyd , ffynhonnau , neu beth bynnag arall y mae angen i wella eu hamodau byw
sylfaenol .
No comments:
Post a Comment