Mae'n swyddogol – mae Sir Gaerfyrddin wedi ennill
statws Masnach Deg dair blynedd yn olynol.
Mae'r sir wedi cael cydnabyddiaeth am ei chefnogaeth
barhaus o ran hyrwyddo'r nwyddau Masnach Deg sydd ar gael, ynghyd â'r defnydd
ohonynt.
Bellach mae nifer fawr o siopau lleol, caffis, a
bwytai, gan gynnwys Tesco, Morrisons, Asda, Marks and Spencer, a Lidl yn
gwerthu nwyddau Masnach Deg.
Am bythefnos bob blwyddyn mae cymunedau ledled Cymru
a'r Deyrnas Unedig yn dathlu Pythefnos Masnach Deg er mwyn cynyddu
ymwybyddiaeth o nwyddau a'r gwerthiant ohonynt.
Er mwyn rhoi sylw i'r digwyddiad, ac fel rhan o ymgyrch
gynaliadwyedd 'Cychwyn Callio' y Cyngor, ymunodd y Cyngor â'r cyfanwerthwr
lleol Alan Price o gwmni Café Fair Trade i brofi gwahanol baneidiau o goffi a
the.
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o'r Bwrdd
Gweithredol dros Gynaliadwyedd: “Mae'r
Cyngor yn hybu'r defnydd o nwyddau Masnach Deg cymaint â phosib, ac mae'n hynod
o falch o gael ennill y statws hwn unwaith yn rhagor. Mae
Masnach Deg yn annog pobl i fod yn gyfrifol ac yn gynaliadwy o ran yr
amgylchedd, gan roi bod yn aml i ffyrdd mwy naturiol ac organig o gynhyrchu, a
thrwy hynny leihau'r effaith ar yr amgylchedd."
Diben Masnach Deg yw sicrhau
bod ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol ar eu hennill yn sgil gwell
prisiau, amodau gwaith boddhaol, cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnachu teg.
Trwy osod rheidrwydd ar gwmnïau i dalu prisiau cynaliadwy, mae Masnach Deg yn
mynd i'r afael â'r annhegwch sydd ynghlwm wrth fasnachu confensiynol, sydd gan
amlaf wedi gwahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a gwannaf yn y
gorffennol. Mae Masnach Deg yn
galluogi'r cynhyrchwyr hynny i wella eu sefyllfa ac i gael rhagor o reolaeth
dros eu bywydau.
Cafodd cwmni coffi Café Fair Trade, sydd â safle ym
Mhorth Tywyn, ei ffurfio 11 mlynedd yn ôl i gyflenwi coffi Masnach Deg i
weithleoedd a siopau coffi.
Dywedodd Alan Price, y perchennog: “Rydym ni'n cael ein
ffa coffi gan rai o gynhyrchwyr coffi gorau'r byd, a chan ein bod yn prynu drwy
Fasnach Deg rydym ni'n cael y cynnyrch gorau sy'n golygu ein bod yn gallu
gwneud coffi gwych."
Llun: Alan Price, perchennog
Café Fair Trade, yn gweini coffi Masnach Deg i Ruth Rees, un o weithwyr y
Cyngor.