Bydd plant ysgol ledled Sir Gaerfyrddin yn cael dau
ginio cynaliadwy yn hwyrach y mis hwn er mwyn cefnogi ymgyrch Pythefnos Masnach
Deg eleni.
Mae Gwasanaeth Arlwyo'r Sir, sy'n rhan o'r Awdurdod lleol,
yn coginio dau ginio arbennig er mwyn dathlu'r achlysur a fydd yn cael ei
gynnal rhwng 25 Chwefror hyd 10 Mawrth.
Ddydd Llun, 25 Chwefror, gall disgyblion fwynhau
spaghetti bolognaise cartref blasus gyda phys a bara garlleg ac yna i bwdin,
banana Masnach Deg, hufen iâ a saws siocled poeth cartref.
Ddydd Llun, 4 Mawrth, bydd plant yn cael Korma Cyw Iâr
neu Korma Quorn, reis cymysg, bara naan, pys neu gorn melys ac yna i ddilyn
byddant yn cael sgon siocled Masnach Deg a sudd ffrwythau.
Mae Pythefnos Masnach Deg yn hyrwyddo
telerau masnach deg i filiynau o ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd sy'n
datblygu. Mae newid yn yr hinsawdd, costau cynyddol bwyd a thanwydd a phrisiau
marchnad ansefydlog yn golygu eu bod yn wynebu dyfodol ansicr.
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, sef Hyrwyddwr
Cynaliadwyedd y Cyngor: “Mae'n hanfodol bwysig bod plant yn dysgu o oed cynnar
o ble mae eu bwyd yn dod a sut caiff bwydydd eu cynhyrchu. Mae dewis a gofyn
am gynnyrch Masnach Deg yn un ffordd o sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr yn
gallu amaethu yn y dyfodol a chyda'n gilydd rydym yn gwneud cynnydd cyson ond
mae angen inni gyrraedd mwy o bobl sydd angen bargen decach wrth fasnachu.
Mae'r
bwydlenni wedi cael eu llunio'n arbennig gan ddefnyddio system Saffron sy'n
mesur ansawdd maethol i'r milligram agosaf.
Meddai
Sandra Weigel, Rheolwr y Gwasanaethau Arlwyo: “Roedd ymgyrch y llynedd yn
llwyddiant ysgubol ac rydym yn gobeithio y bydd yr un eleni yn adeiladu ar
hynny.
“Mae'n
bwysig ein bod ni'n dangos ein cefnogaeth i Fasnach Deg oherwydd mae'n ategu
ein hymdrechion i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol sy'n iachus ac yn faethol.
Yn ogystal, mae'n helpu i addysgu'r plant ynghylch moeseg Masnach Deg."
No comments:
Post a Comment