Mae ffermwraig bananas masnach deg , Sandra Joseph wedi bod yn brysur
iawn yn trafeilio o amgylch ysgolion Cymru yn rhannu’r neges dros Fasnach Deg.
Tra’n ymweld ag ysgolion Sir Gaerfyrdin cafodd tipyn o sioc i glywed plant yn
dweud eu bod wedi gweld coeden fanana, a’r peth rhyfeddaf oedd eu bod wedi ei
gweld yn lleol!
Aeth Sandra i weld dros ei hunan. Ie mynd i’r gerddi Botaneg Cenedlaethol
oedd angen. Roedd y rhan fwyaf o’r coed dal heb agor dros y gaeaf ond roedd un
tu fewn i’r ty gwydr mawr yn dechrau dangos ffrwyth, ac roedd Sandra wrth ei
bodd yn cael tynnu un llun yr oedd erioed wedi meddwl y byddai yn ei wneud pan
adawodd ei chartref yn St Lucia.
No comments:
Post a Comment