Ffordd Masnach Deg Sir Gâr
Roedd plant Ysgol Feithrin Rhydaman
ac Ysgol Bro Banw yn canu a dawnsio wrth i bedwar deg o gefnogwyr masnach deg
ddechrau ar eu taith ar hyd Llwybr Masnach Deg Sir Gâr.
Llwybr sydd yn uno trefi masnach deg
Rhydaman a Chaerfyrddin yw hwn.
Ymunodd staff o Co-op Rhydaman a
Chaerfyrddin gyda gwirfoddolwyr Oxfam ac ymgyrchwyr masnach deg o Abertawe a Sir Gaerfyrddin, ynghyd a
myfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Aman i gerdded a chodi ymwybyddiaeth
am fasnach deg.
Roedd y daith yn cynnwys stop yng nghaffis
masnach deg Trap a Dryslwyn, ac Ysgol Gynradd Llandeilo ble roedd band Samba’r
ysgol yn croesawu’r cerddwyr.
Dywedodd Phil Broadhurst, trefnydd y
daith
“Pan gyhoeddwyd y dyddiad ar gyfer y
daith roeddwn yn disgwyl tua 4 neu 5 o ni gerdded. Mae’r ffordd wnaeth y syniad
gydio yn wych. Mae’r nifer o bobl, ar draws y gymuned, sydd wedi ymateb mewn
gwahanol ffyrdd wedi bod yn lwyddiant arbennig. Cawsom ysgolion, busnesau,
grwpaiu cymunedol ac unigolion i gyd yn cymryd rhan”.
O’r dechrau yn caffi i-smooth
Rhdyaman am 9 tan tua 12 awr wedyn roedd yr cerddwyr yn llawn hwyliau da ac yn
rhoi taflenni allan ar hyd y daith i hyrwyddo masnach deg gan sicrhau bod y
neges mai trwy fasnachu yn deg yw’r unig ffordd o sicrhau bod cynhyrchwyr yn
cael pris teg am eu cynnyrch.
Am fwy o wybodaeth am y teithiau sydd
yn rhan o Ffyrdd masnach Deg Cymru ewch i’r wefan –
No comments:
Post a Comment