Friday, 27 June 2014

Ffordd masnach Deg Sir Gaerfyrddin yn ymestyn tua'r Gorllewin

Mae Ymgyrchwyr Masnach Deg ar draws Sir Gaerfyrddin yn ymuno gyda'i gilydd i gerdded am y tro cyntaf ymestyniad i Lwybr Masnach Deg Sir Gaerfyrddin o Gaerfyrddin i Hendy-gwyn ar ddydd Mercher 9 Gorffennaf.

Mae'r daith yn ymestyn y llwybr arloesol a gafodd ei greu mis Mehefin diwethaf o Rydaman i Gaerfyrddin drwy Llandeilo.

Mae’r Ffordd Masnach Deg Sir Gaerfyrddin yn rhan o rwydwaith ledled y DU o lwybrau sy’n cysylltu Trefi, ysgolion, siopau a chanolfannau cymunedol Masnach Deg. Mae'r llwybr yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd yn ymuno â llwybr i Abertawe, ac yn fuan bydd yn cael ei ymestyn tua'r gorllewin drwy Hwlffordd ac ymlaen i Ty Ddewi.

Bydd staff o siopau Co-Operative ac OXFAM lleol yn ymuno â'r daith, yn ogystal a nifer o ysgolion ar hyd y ffordd.

Bydd cerddwyr a chefnogwyr yn ymgynnull yn y Siop De ym Mharc Caerfyrddin am 9:00, yn barod i gychwyn am 9.30am. Bydd staff a phlant o Ysgol Gynradd Tre Ioan yn cerdded cyn belled a’u hysgol, lle y byddant yn cael cyfarfod gyda Phennaeth Masnach Deg Cymru, Elen Jones. Bydd y cerddwyr wedyn yn cario ‘mlaen i Hendy-gwyn, gan aros am ginio Masnach Deg yn Neuadd Bentref Llangynog a The Prynhawn Masnach Deg yn The Gate yn Sanclêr, cyn gorffen yn siop Co-Operative yn Hendy-gwyn.

Yna bydd traed blinedig y cerddwyr 'cael eu trin ag eli droed Masnach Deg a roddwyd gan Lush.

Dywedodd trefnydd y daith gerdded Phil Broadhurst:.. "Enillodd  taith y llynedd wobr Sefydliad Masnach Deg ar gyfer yr Ymgyrch Mwyaf  Creadigol y Flwyddyn y llynedd. Rydym yn falch iawn o fod yn gallu  parhau â'r ffordd wych hwn o gysylltu chymunedau lleol yn yr ymgyrch dros Fasnach Deg. Un peth rwy'n hoff iawn ohonno gyda Ymgyrch Ffyrdd Masnach Deg yw ei bod yn cynnwys cymaint o bobl ar draws y gymuned; pobl o ysgolion, grwpiau pensiynwyr, busnesau, grwpiau cymunedol ac unigolion i gyd yn dod at ei gilydd i gefnogi pobl o gwmpas y byd sydd angen Masnach Deg i allu fforddio mynediad sylfaenol i ddŵr, ysgolion, neu ganolfannau iechyd. "

Dylai unrhyw un sydd am ymuno â'r daith gerdded, neu sydd am ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â Phil ar 01269 596933.

No comments:

Post a Comment