Sunday, 1 June 2014

Masanch Deg yn cefnogi Baton Gemau'r Gymanwlad yn Rhydaman


Roedd presenoldeb Masnach Deg cryf yn rhydaman wrth i faton Gemau'r Gymanwlad gyrraedd y dref. Roedd Grŵp Masnach Deg y dref yn dosbarthu bananas Masnach Deg o siop y Co - Operative y dref wrth i’r tyrfaoedd ymgasglu i groesawu'r baton .

Roedd siopau lleol Masnach Deg , Bertams a Harmony , yn gwerthu cynnyrch o wledydd y Gymanwlad yn y Diwrnod Rhyngwladol yng Nghanolfan Aman, a phlant yn lliwio baneri i gefnogi gwledydd y Gymanwlad sydd â ffermwyr Masnach Deg .
Daeth mascot Gemau'r Gymanwlad, Clyde, i ymweld â stondin y Grwp Masnach Deg , a helpu i wneud smwddi Masnach Deg ar wneuthurwr smoothie iSmooth sydd wedi ei bweru gan feic.
 
Cynhelir Gemau'r Gymanwlad eleni yn Glasgow , sy'n Dinas Masnach Deg , ac maent wedi dilyn arweiniad y Gemau Olympaidd yn Llundain yn eu cefnogaeth o Fasnach Deg . Bydd yr holl bananas , te , coffi a siwgr a gyflenwir i ymwelwyr , staff ac athletwyr yn y Gemau yn rhai Masnach Deg.
Roedd Phil Broadhurst , aelod o Grŵp Masnach Deg Rhydaman wrth ei fodd yn y ffordd roedd y  grŵp yn gallu nodi ymweliad y baton i Rydaman , a ddaeth yn dref Masnach Deg cyntaf yng Nghymru yn ôl yn 2002. Dywedodd "Roedd yn gyfle gwych i ddathlu ymrwymiad Gemau'r Gymanwlad  i Fasnach Deg , a chydnabod ymrwymiad parhaus Rhydaman i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd i gael pris teg am eu nwyddau . "

No comments:

Post a Comment