Cafodd Arcêd Stryd y Coleg Rhydaman ei drawsnewid unwaith eto i mewn i balas
gwledda masnach deg terfysglyd ar ddydd Gwener, gan fod plant y dref wedi casglu i adeiladu a difa Banana
Split Masnach Deg 100 troedfedd o hyd.
Profoddd y digwyddiad blynyddol, sydd bellach yn ei seithfed
flwyddyn, i fod mor boblogaidd ag erioed, gyda torfeydd yn sarnu allan
ar y piazza, lle'r oedd atyniadau
ychwanegol o sesiynau sgiliau syrcas rhad ac am ddim, stondin Comic Relief a
siop Masnach Deg symudol Popcycle.
Trefnwyd y digwyddiad gan Grŵp Masnach Deg Rhydaman, rhoddwyd y bananas Masnach Deg gan y Co-operative, yr hufen iâ gan Franks, a’r landeri i ddal y cyfan gan LBS.
Dywedodd aelod o'r Grŵp Masnach Deg Phil Broadhurst: "Roedd yn ddigwyddiad cymunedol da iawn arall, gyda phawb yn dod at ei gilydd i ddathlu Masnach Deg."
Digwyddiad nesaf y Grŵp Masnach Deg fydd Taith Gerdded Masnach Deg, o Frynaman i Rydaman, gan ddechrau yn Siop Laria, ac yn dod i ben yng Ngŵyl Amrywiaeth Twrch Trwyth yn Rhydaman yn Stryd y Cei ar ddydd Sadwrn 21ain o Fawrth

No comments:
Post a Comment