Cyfeirlyfr Masnach Deg

CYFEIRLYFR MASNACH DEG RHYDAMAN


Gyda nifer gynyddol o nwyddau Masnach De gar gael yn Rhydaman mae’r angen am gyfeirlyfr yn llawer llai nag yr oedd yn 2002 pan gyhoeddwyd yr un cyntaf. Adeg hynny roed dyn rhaid i chi chwilio’n ofalus am nwyddau masnach deg. Nawr, mae nifer o’r barriau siocled mwyaf poblogaid dyn rhai masnach deg, ac mae’r archfarchnadoedd i gyd yn cadw o leiaf y nwyddau sylfaenol fel te a choffi masnach deg.


Nid yw’r cyfeirlyf hwn yn cynnwys y siopau sy’n gwerthu nwyddau masnach deg drwy siawns oherwydd y ffaith bod Cadbury's, Nestle neu Mars wedi newid i fod yn fasnach deg. Er enghraifft byddai’r rhestr caffis llawer hirach os bidden ni yn cynwnsy y rhai sydd yn gweerthu siocled twym Cadbury’s a byddai pob siop bapur newydd yn cael ei gynnwys oherwydd Kit Kat, maltesers neu Dairy milk.


Mae’r cyfeirlyfr felly yn hysbysebu y rhai sydd wedi gwneud ymderech i stocio nwyddau Masnach Deg.


ARCHFARCHNADOEDD A SIOPAU MAWR :


Boots : Ar gyfer masnach Deg yn Boots, edrychwch am y nwyddau EXTRACTS. Hefyd anrhegion coffi, cookie a siocled twym.


Co-Operative :Amrediad mwyaf o nwyddau masnach deg yn Rhydaman. Tra eich bod yn disgwyl ffeindio bananas a choffi masnach deg yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd heddiw, mae’r Co-Op hefyd yn gwerthu gwlan cotwm masnach deg a barbeciw! Siwgr, gwin a siocled (brand nhw eu hunain) neu muesli, sudd a mangos wedi sychu .. rhywbeth at bawb! Mel Rowse, Hufen ia Ben & Jerry’s, ac amrediad mawr o nwyddau iechyd da a chnau masnach deg yw’r pethau eraill. Gwir ddewis o de a chiffui masnach deg a siocled twym hefyd. A bagiau cotwm masnach deg i’w rhoi nhw ynddynt.


Mae gan y siop lawer o wybodaeth am fasnach deg, mewn dull paneli mawr ac hysbysfwrdd cymunedol ble rydym yn hysbysu cyfarfodydd grwp masnach deg Rhydaman. Y nhw sydd hefyd yn rhoi y bananas I ni ar gyfer ein banana Sblit enfawr.


Lidl : Ar gyfer masnach deg yn LIDL, edrychwch am nwyddau FAIRGLOBE sydd yn cynnwys bananas, siocled, sudd, coffi a siwgr. Hefyd mae ganddynt fagiau cotwm masnach de gar gyfer gosod eich siopa.


Tesco : Y diodydd cyffredin i gyd yn fasnach deg, siwgr, a siocled ar gael.


SIOPAU ANNIBYNOL :

Catherine Blair, Stryd y Coleg: Detholiad chwaethus o ddillad Masnach Deg gan gwmni NOMADS.
 

Bertram's, Arcade Stryd y Coleg: Dewsi da o grefftau a nwyddau masnach deg, gan arbenigo mewn offerynnau cerdd.


Flowercraft, Arcade Stryd y Coleg: Amrediad o flodau ac anrhegion masnach de gar gael I’w archebu drwy Interflora.



Harmony, Stryd y Gwynt: Amrediad da iawn o grefftau, anrhegion masnach deg. Hefyd dillad, bagiau a sgarff. Hefyd yn rhedeg canolfan addysgiadol holistig.


Jelf's, Stryd y gwynt: Amrediad o de herbal, gwyrdd a ffrwythau. Cynnyrch masnach deg Goodlife’s fel cutlet cnau a byrgers llysieuol. A molasses hefyd!


CAFFIS:


i-smooth, Stryd y Coleg: Caffi cymunedol, sy’n rhedeg fel busens cymunedol. Pob diod yn rhai masnach deg.


Gregg's, Stryd y Cei: Mae te, coffi a siocled poeth Gregg's i gyd yn rhai masnach deg, yn ogystal a’u sudd oren.


Cwtsh, Stryd Fawr: Coffi a siolced twym masnach deg, a bisgedi malteser crunch ffantastig!



GADEWCH I NI WYBOD OS YDYCH YN SIOPWR NEU GYFLENWR MASNACH DEG SYDD HEB EI GYNNWYS UCHOD!

No comments:

Post a Comment