Tuesday, 22 September 2009

Cyfeirlyfr Masnach Deg Rhydaman

I ddiweddaru’r cyferilyfr byddwn yn ddiolchgar petaech yn gadael I ni wybod am unrhyw nwyddau yr ydych yn eu gweld yn y siopau neu gaffis yn Rhydaman. I wneud hyn , neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

(Y gwahaniaeth yn y cyfeirlyfr hwn rhwng nwyddau “Masnach Deg” a nwyddau wedi eu “masnachu yn deg” yw bod nwyddau “Masnach Deg2 yn cario logo swyddogol y Sefydliad Masnach Deg.)
SIOPAU :

Y Co-Op, Stryd y Coleg :
Nwyddau yn cynnwys :
- amrediad eang o de a choffi, siolced twym a cocoa,
- Siwgr Masnach Deg y Co-Op a Tate and Lyle,
- Dewis eang o bariau siocled, bisgedi, shortbread, fflapjacs, cacennau a danteision eraill,
- bananas, orenau a ffrwythau ffres (pinafalau, mangos… ) yn ddibynol ar y tymhorau,
- snack pack mango Masnach Deg wedi ei sychu,
- cnau wedi eu halltu a cashews Masnach Deg,
- barbeciw parod Traidcraft wedi ei fasnachu yn deg,
- dewis o nwyddau gwlan cotwm Masnach Deg y Co-Op,
- muesli Masnach Deg y Co-Op,
- dewis o sancbar Masnach Deg y Co-Op,
- snacbar Masnach Deg Doves Farm,
-
hufen iâ Masnach Deg Ben & Jerry’s,
- dewis eang o win Masnach Deg,
- Mêl Rowse,
- … a bag gwlan cotwm Masnach Deg i roi popeth ynddo!

Flowercraft in the College Street Arcade - Blodau Masnach Deg a basgedi i'w harchebu trwy Interflora
-

Boots, Stryd y Cei :
- dewis o golur ac anrhegion Masnach Deg,
Tesco, Stryd y Parc :- dewis o de a choffi Masnach Deg,
- siwgr Masnach Deg Tate and Lyle,
- bananas Masnach Deg.

Jelf’s, Stryd y Gwynt :
- dewis o wahanol fathau o de Masnach Deg,
- bariau siocled Masnahc Deg Plamil a Green and Black’s,
- golwythion cnau Msnach Deg Goodlife,
- flakes quinoa BioFair wedi eu masnachu yn deg.

Partridge and Ptarmigan, Stryd Fawr :
- dewis o ddillad ac clust dlysau, mwclis ac yn y blaen Masnach Deg ac wedi eu masnachu yn deg.

The Magnolia Tree :
- nwyddau Windhorse wedi eu masnachu yn deg.

Inspirations, Arcade Stryd y Coleg :
- dewis o nwyddau Windhorse a Latitude wedi eu masnachu yn deg.
Y Pantri Organig :- gwerthu cynnyrch Masnach Deg ar-lein yn yr ardal leol drwy eu cynllun bocs organig.
- Nwyddau yn cynnwys diodydd, reis, hadau, cnau, ffa, siolced a llawer mwy
-
www.organics-online.co.uk / 01269 824695.

ac unrhywle sydd yn gwerthu barau siolced Cadbury’s Dairy Milk bars!- Ers Medi 2009, mae barau siocled Cadbury’s Dairy Milk wedi mynd yn rhai Masnach Deg, felly byddwch yn fwy na thebyg yn ffeindio o leiaf un cynnyrch Masnach Deg ym mhob siop/garej/ siop bapur yn Rhydaman – Gofynnwch am i’r stocwyr “newydd” hyn i stocio nwyddau Masnach Deg eraill hefyd. (Mae (Cadbury’s Hot Chocolate yn Fasnach Deg erbyn hyn.)
CAFFIS :2activate, Stryd y Gwynt :- dewis eang o ddiodydd a byrbrydau Masnach Deg a nwyddau wedi eu masnachu yn deg.
No. 6, Stryd y Gwynt :- te, coffi, siolced twym a sudd oren Masnach Deg.
Gregg’s, Stryd y Cei :- te, coffi, siocled twym a sudd Masnach Deg.
… ac ym mhobman arall sy’n gwerthu Cadbury’s Hot Chocolate!

No comments:

Post a Comment