Llongyfarchiadau – Dwi yn falch o gyhoeddi mai enillwyr Gwobr Ymgyrch Gyfryngol Orau Pythefnos Masach Deg.
Roedd y beiriniaid wedi eu plesio’n arw gan yr digwyddiadau creadigol a sicrhaodd gyhoeddusrwydd gan y cyfryngau – nid yn unig mewn print ond hefyd ar y teledu. Yn ol Sefydliad Masnach Deg –“ Fe wnaethoch sicrhau amrywiaeth eang o bobl yn eich gweithgareddau, gan gynnwys y Maer, yr Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad lleol, yn ogystal a chapeli a mudiadau ieuenctid. Roedd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau yn sicrhau diddordeb y cyfryngau a wanethoch sicrhau bod y neges yn cyrraedd nifer fawr o bobl”.
Felly diolch i bawb oedd wedi cynorthwyo a cymryd rhan yn y digwyddiadau yn ogystal a’r cyfryngau am eu cefnogaeth. (Byddwn wrth gwrs yn gobeithio cael mwy o gyhoeddusrwydd pan fyd dmanylion y wobr yn cael ei cyhoeddi!).
http://www.fairtrade.org.uk/press_office/press_releases_and_statements/september_2009/fairtrade_fortnight_award_winners_2009_announced.aspx
No comments:
Post a Comment