Mae Grwp Masnach Deg Rhydaman yn dathlu ar ol ennill gwobr Yr Ymgyrch Gyfryngol Orau Pythefnos Masnach Deg drwy Brydain.
Dywedodd Veronica Pasteur o Sefydliad Masnach Deg “Roedd y beirniaid wedi eu plesio gyda’r digwyddiadau creadigol a gafodd eu trefnu gan y grwp a sicrhaodd sylw y cyfryngau – nid yn unig mewn print, ond hefyd ar y teledu. Roedd y digwyddiadau yn sicrhau cyfraniad amrediad eang o bobl, nid yn unig y Maer, Aelod Seneddol a’r Aelod Cynulliad ond hefyd y Capeli, ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol. Roedd y gwahanol weithgareddau yn lwyddiant ysgubol ac yn ffordd o greu storiau newyddion diddorol a gafodd sylw gan y wasg a sicrhau bod y neges yn cyrraedd nifer fawr o bobl.
Dyma’r gweithgareddau a gynorthwyodd gwenud Pythefnos masnach Deg 2009 yr un mwyaf a gorau eto, ac wrth baratoi ar gyfer 2010 gobeithiwn bod y llwyddiannau hyn yn ysgogi eraill ar draws y wlad i fod yn weithgar dros Fasnach Deg.
Dywedodd Phil Broadhurst, Aelod o grwp masnach Deg Rhydaman “Rydym wrth ein boddau gyda’r wobr a’r cydnabyddiaeth mae’n ei roi i’r ffordd roedd cymaint o bobl yn y gymuned wedi dod at eu gilydd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg eleni
No comments:
Post a Comment