Thursday 30 April 2009

World Fair Trade Day 2009 - Diwrnod Masnach Deg y Byd 2009


World Fair Trade Day has grown into a global celebration of Fair Trade with events organized worldwide, on and around the second Saturday of May by members of the International Fair Trade Association across 70 countries.
.
Mae Diwrnod Masnach Deg y Byd wedi tyfu’n ddathliad byd-eang o Fasnach Deg gyda digwyddiadau’n cael eu trefnu dros y byd i gyd gan aelodau Cymdeithas Fasnach Deg Rhyngwladol ar draws 70 o wledydd ar neu o gwmpas yr ail ddydd Sadwrn ym mis Mai.
.
Events have included Fair Trade breakfasts, talks, markets, live performances, fashion shows, carnivals, processions and protests, to drive Fair Trade and campaign for justice in trade and promote sustainable environmental policy.
Fair Trade products and produce from marginalised communities are showcased on the day.
The new excellent World Fair Trade day website gives a step by step guide on creating an event and information on the World Fair Trade Organisation (previously the International Fair Trade Association, IFAT)
.
Mae digwyddiadau wedi cynnwys brecwastau Masnach Deg, sgyrsiau, marchnadoedd, perfformiadau byw, sioeau ffasiwn, carnifalau, gorymdeithiau a phrotestiadau, i amlygu Masnach Deg ac ymgyrchu dros gyfiawnder mewn masnach a hyrwyddo polisi amgylcheddol cynaliadwy.
Mae cynnyrch Masnach Deg o gymunedau ymylol yn cael eu harddangos ar y diwrnod.
Mae gwefan newydd ardderchog Diwrnod Masnach Deg y Byd yn rhoi arweiniad gam wrth gam ar greu digwyddiad a gwybodaeth ar Sefydliad Masnach Deg y Byd (Cymdeithas Fasnach Deg Rhyngwladol IFAT gynt).

No comments:

Post a Comment