Wednesday 27 May 2009

CURO’R DRWM DROS MASNACH DEG!

CURO’R DRWM DROS MASNACH DEG!
CYNHADLEDD CYMRU MASNACH DEG, DYDD SADWRN MEHEFIN 6ed 2009
COLEG Y DRINDOD, CAERFYRDDIN
10.30 – 16:00

Cynhelir cynhadledd cyntaf Cymru Masnach Deg yng Ngorllewin Cymru eleni, lle y byddwn yn CURO’R DRWM DROS MASNACH DEG! Y thema yw clodfori gwaith hynod Masnach Deg gyda llu o siaradwyr ysbrydoledig, gweithdai a gweithgareddau.

Gan gynnwys:

Croeso ar fideo gan Harry Hill (gwyneb Liberation cnau Masnach deg)
Sgwrs gan Zaytoun – prosiect olew olewydd Masnach Deg Palestina.
Cinio gan gynnwys cynnyrch Masnach Deg a lleol
Sgwrs “Café’r Byd”
Gweithdai amrywiol gan gynnwys cyfiawnder masnach, cysylltiadau cymunedol rhyngwladol, ag arddangosiad byw crefftau Masnach Deg.
Ardal arbennig i blant (dan 16 oed) gyda amryw o weithdai a gweithgareddau. Gem pel-droed Masnach deg, ac ardal grefft i’r plant llai.
Lansio ymgyrch newydd i fudiad Cymru Masnach Deg.
.
Beth yw “Café’r byd”?

Dull creadigol yn arwain at sgwrs effeithiol, rhannu gwybodaeth a chreu posibiliadau o weithredu mewn grwpiau o bob maint. Proses syml - canlyniadau diddorol. Yr ydych yn ymuno â sgwrs wrth fwrdd coffi neu mewn grwpiau bach yn trafod cwestiynau neu materion bywyd sydd yn bwysig yn bersonnol i chi, eich gwaith neu’r gymuned. Mae eraill yn eistedd ar fyrddau neu mewn grwpiau cyfagos yn trafod cwestiynau tebyg ar yr un pryd. Nodir y syniadau a sylwadau ar lineiniau bwrdd papur.

Mae hyn yn arwain at unigolion yn rhannu syniadau a sylwadau gyda grwpiau bach newydd, lle gwelir agweddau gwahanol yn cael eu gwyntyllu. Wrth i bobol a syniadau gysylltu trwy sgwrs ar ol sgwrs, fe gyfoethogir profiadau ag adnabyddiaeth yn bersonol ac yn eang.

Archebion

Tal y cynhadledd yw £5 am oedolion, ac am ddim i blant (o dan 18 oed) sydd yn cynnwys cinio a lluniaeth. Y mae’n bwysig eleni i archebu tocynnau o flaen llaw ac yr ydym yn argymell eich bod yn archebu’n gynnar er mwyn sicrhau’ch lle mewn gweithdy. I archebu lle, dychwelwch y ffurflen hon ynghyd â’ch siec am £5 yn daladwy i ‘Fforwm Masnach Deg Cymru’ gyda’ch enw a chyfeiriad wedi’u hysgrifennu mewn print bras ar gefn y siec. Mae angen un ffurflen ar gyfer pob person.


Postiwch i:
Kate Meakin
Cymru Masnach Deg
Cynhadledd Cymru Masnach Deg 2009
d/o Oxfam Cymru
Siambrau’s Farchnad, 5-7 Heol Santes Fair
Caerdydd, CF10 1AT

Am fwy o wybodaeth www.fairtradewales.com neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â
kate@fairtradewales.com neu ffoniwch 02920 803293

No comments:

Post a Comment