Thursday 28 January 2010

TEITHIAU MASNACH DEG

Wedi ei ysbrydoli gan y Ffordd Masnach Deg (Fairtrade Way), sef taith gerdded sy’n mynd o Garstang i Keswick gan uno trefi Masnach Deg yn Ardal y Llynnoedd, ac sydd bellach yn ymestyn i’r de a’r gogledd (www.garstangfairtrade.org.uk am fwy o fanylion) mae rhai ohonom yng Nghymru yn gobeithio parahu gyda’r Llwybr i mewn i Gymru, a chynnal cyfres o Deithiau Masnach Deg, ac uno trefi Masnach Deg Cymru.

Mae’r daith gyntaf ar Dydd Sul 7 Mawrth o Siop Lyfrau Oxfam yn Abertawe (cyfarfod am 11.00 i adael am 11.30) i’r Caffi Coch yn y Mwmbwls.

Bydd teithiau eraill yn bendant yn digwydd ond nid ydym wedi penderfynnu ar y dyddiadau hyd yn hyn. Bydd un o Abertawe i Rhydaman a Chaerfyrddin, nid ydym yn siwr o’r llwybr eto.
Pwrpas y neges hwn yw codi diddordeb a dechrau trefnu pethau a chynnig cymorth i unrhyw un sydd a diddordeb er mwyn cael cymaint o bobl ag sy’n bosib i gerdded gyda’i gilydd.
A fyddech mor garedig a gadael i eraill wybod am y syniad. Gall Teithiau Masnach Deg fod yn deithaiu sydd wedi eu trefnu yn barod, gan gynnwys teithaiu gan grwpiau cerdded, ble mae pawb yn cytuno i lenwi eu fflasgiau gyda diodydd masnach deg, neu taith i’r CO-OP agosaf neu i gaffi Masnach Deg. Neu gall fod yn daith i fyny’r Wyddfa er mwyn yfed sudd Masnach Deg ar y copa yn Hafod Eryri. Mae’r posibiliadau yn ddi-ddiwedd.

Yr unig beth sydd eisiau ei wneud yw cerdded, cael hwyl a lledu neges Masnach Deg.

Unrhwy un gyda diddordeb am fwy o fanylion cysylltwch a
Phil Broadhurst : 01269 596933
riversidepicnic@yahoo.co.uk
146 High Street
Ammanford
SA18 2ND

No comments:

Post a Comment