Wednesday 17 February 2010

Sinema Solar, Te a Banana Split - Pythefnos Masnach Deg Rhydaman

Mae Rhydaman yn dathlu Pythefnos Masnach Deg eleni (Chwefror 22 – 7 Mawrth) drwy gyfres o ddigwyddiadau cymdeithasol, gweithgareddau ysgol, siop ac ymgyrchoedd mewn caffi.

Bydd yna nid un ond dau De Parti “Madhatter” yn Ystafell De Benwig yn Stryd y Gwynt ar ddydd Mercher 24 Chwefror. Bydd te Masnach Deg a danteithion yn cael eu gweini rhwng 10 ac 11.30 ac yna rhwng 3pm a 4pm.


Ar ddydd Gwener 5 Mawrth bydd yr Haf yn cyrraedd yn gynnar yn Rhydaman pan fyddwn yn dathlu “Diwrnod Haf Masnach Deg” ar dop yr Arcade yn Stryd y Coleg.
O 11.30am ymlaen bydd y Sol Cinema, sef sinema wedi ei yrru gan ynni solar mewn carafan 1960au yn dangos ffilmiau byr am Fasnach Deg.
Wedyn o 5.30 ymlaen bydd Banana Split enfawr yn cael ei adeiladu, ar hyd yr arcade.
Bydd y sinema ar agor tan 7.00pm a, rhag ofn bod tywydd Mis Mawrth ddim digon hafaidd i fywta hufen iâ yn unig bydd “ushurettes” o 2activ8 yn gwerthu siocled twym Masnach Deg!


Bydd holl ysgolion cynradd Rhydaman yn cynnal cinio Masnach Deg ar y ddau ddydd gwener yn ystod y pythefnos a trwy’r pythefnos bydd Gwasanaeth Arlwyo Sir gaerfyrddin yn cyfnweid pob diod sudd ffrwythau gyda rhai Masnach Deg yn Ysgol Dyffryn Aman a phob ysgol uwchradd arall yn y sir.


Dywedodd Phil Broadhurst o Grwp Masnach Deg Rhydaman “Ers i RHydaman ddod yn dref Masnach Deg gyntaf Cymru yn 2002 mae’r ymwybyddaieth o Fasnach Deg yn y dref mae ymrwymiad y gymdeithas yn Pythefnos Masnach Deg wedi cynyddu pob blwyddyn, ac mae eleni yn argoeli i fod yr orau eto.”


Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Phil Broadhurst: 01269 596933 / riversidepicnic@yahoo.co.uk / http://www.ammanfordfairtrade.blogspot.com/

No comments:

Post a Comment