Tuesday 9 March 2010

BANANA SPLIT MASNACH DEG 2010

Unwaith eto daeth tyrfa fawr i gymryd rhan y y Banana Split enfawr yn yr Arcade ar Nos Wener 5 Mawrth.
Rhan o ddigwyddiadau Pythefnos Masnach Deg oedd hon. Dyma'r ail waith i ni adeiladu Banana Split enfawr ar hyd yr arcade ac roedd un eleni yr un mor fawr a llynedd.
Hefyd roedd yna sinema fach a oedd yn cael ei rhedeg gan ynni'r haul yn dangos ffilmiau am Fasnach Deg.
Hoffai'r trefnwyr ddiolch i'r busensau lleol am eu cefnogaeth yn enwedig  -Maria o gwmni Franks am yr hufen ia, Viv yn LBS am ein helpu gyda'r cafnau ac Anthony o'r COOP am y bananas. 

Er mwyn creu'r banana split yn gyntaf roedd angen torri'r bananas a'u gosod ar y cafn, wedyn ychwanegu'r hufen ia, yr hufen a'r saws siocled - wedi hyn roedd pawb yn gafael mewn llwy a bwyta!!
Pa well ffordd i ddathlu Pythefnos Masnach Deg ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth am nwyddau sy'n rhoi cyfle teilwng i ffermwyr a masnachwyr.

No comments:

Post a Comment