Tuesday 27 April 2010

SOL SINEMA YN RHYDAMAN

Roedd y Sol Cinema, sef Sinema mewn carafan sydd wedi ei yrru gan bwer yr haul yn y dref trwy’r dydd ar Dydd Gwener 5 Mawrth. Roedd ciw cyson yn aros i fyn d i mewn i weld ffilmaiu am Fasnach Deg. Beth oedd yn galonogol oedd yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg oedd y ffaith bod cymaint o bobl yn gyfarwydd iawn am FASNACH DEG. Yn wir roedd nifer yn dod atom ar ol siopa yn y CO-OP lleol gyda nwyddau Masnach Deg yn eu bagiau.



Daeth y Co-op a nifer o busnesau lleol atom i gynorthwyo gyda ein Banana Split Enfawr. Dyma’r ail un ac edrychwn ymlaen at y nesaf. Rhoddodd y Co-op y bananas, Franks yr hufen ia a LBS y gwter plastic 30 troedfedd i osod y bananas a’r hufen ia.

No comments:

Post a Comment