Tuesday 22 June 2010

Cymru Yn Dathlu Ail Flwyddyn Fel Cenedl Masnach Deg

Mae cefnogwyr Masnach Deg yn dathlu ail ben-blwydd Cymru fel Cenedl Masnach Deg y mis hwn. Cyflawnodd Cymru ei statws ym Mehefin 2008 ac ar y funud Cymru ydy’r unig wlad i gyrraedd safonau parchus Cenedl Masnach Deg. Dywedodd Elen Jones, Cydlynydd Cenedlaethol Masnach Deg Cymru:
“Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu ein hail flwyddyn fel Cenedl Masnach Deg. Mae’r Marc Masnach Deg yn awr yn adnabyddus drwy Gymru, ac mae siopwyr Cymru yn dewis Masnach Deg yn rheolaidd. Rydym yn cychwyn yr ail gyfnod o’r ymgyrch Cenedl Masnach Deg a nawr eisiau ffocysu ar gynyddu polisi cyhoeddus masnach deg a hyrwyddo dealltwriaeth well o faterion Masnach Deg trwy Gymru.”
Meddai:
“Byddem yn hefyd yn hoffi llongyfarch Yr Alban sydd yn y cyfnod terfynol o’u hymgyrch cenedl ac yn ymestyn ein cymorth i unrhyw wlad sydd eisiau ymuno gyda ni.”
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Jane Davidson, fu’n gefnogol iawn o’r rhaglen Cenedl Masnach Deg:
“Dwi’n falch iawn mai Cymru oedd y wlad gyntaf i ennill statws Masnach Deg ac wrth fy modd ein bod nawr yn dathlu ein hail ben-blwydd fel Cenedl Masnach Deg.”
“Mae’n galanogol gweld fod gwerthiant nwyddau Masnach Deg yn parhau i gynyddu yng Nghymru a bod mwy a mwy ohonom yn hapus i dalu pris teg am nwyddau bob dydd fel te, coffi a siocled yn ymwybodol ein bod yn cefnogi rhai o’r ffermwyr a’r cynhyrchwyr tlotaf yn y byd i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.”
Mae dros 77% o awdurdodau lleol Cymru yn gweithio tuag at statws Masnach Deg, i gymharu efo dim ond 31% yn Yr Alban a 25% yn Lloegr ynghyd a 804 o ysgolion yn gweithio tuag at ddod yn ysgolion Masnach Deg. Dangosodd arolwg annibynnol diweddar, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fod dros 50% o siopwyr Cymru yn dewis Masnach Deg yn rheolaidd.

No comments:

Post a Comment