Thursday 23 September 2010

CYFARFOD PWYSIG – i drafod Taith Feicio Masnach Deg: Mercher 6 Hydref, 7PM i-smooth, Stryd y Coleg, Rhydaman

Mae taith feicio 500 milltir yn cael ei threfnu i ddathlu cyhoeddi’r 500fed tref Masnach Deg ym Mhrydain, .. ac mae’n dod i De Cymru ar sul 30 Hydref a Llun Tachwedd 1af.

Mae’r daith yn dechrau yn Aberfeldy yn mynyddoed dyr Alban, sef y dref Fasnach Deg gyntaf yn yr Alban, cyn mynd trwy Garstang, tref Masnach Deg cyntaf Lloegr a’r cyntaf yn y Byd, ac yna i Rhydaman, tref Masnach Deg cyntaf Cymru.
Bydd beicwyr yn cyrraedd Y Gelli ar ddydd Sadwrn 30 Hydref cyn mynd i Rhydaman ar Sul 31 Hydref, yna ar y dydd Llun 1 Tachwedd bydd grwp lleol o feicwyr yn ymuno a siclo ar hyd y rhan olaf o’r daith i Gaerydd, y Brif Ddinas Masnach Deg cytnaf yn y byd.

Mae’r manylion y rhan olaf o’r daith wrthi yn cael ei gorffen nawr, bydd y beicwyr yn mynd trwy Llanelli, i lawr i Abertawe ac ymuno gyda llawer o feicwyr erailla r y ffordd. Wedyn trwy Fro Morgannwg i mewn i Gaerdydd mewn da bryd i gysylltu’n fyw gyda ymgyrchwyr o’r 500fed tref Masnach Deg, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod y dydd.

Oes gan unthyw un ddiddordeb mewn beicio rhan o’r ffordd, neu eisiau cymryd rhan yn y digwyddiadau ar hyd y daith, yna cysylltwch â Phil Broadhurst o Grwp Masnach Deg Rhydaman ar 01269 596933 or riversidepicnic@yahoo.co.uk a.neu dewch i gyfarfod nedaf Grwp Masnach Deg Sir Gaerfyrddin yn i=smooth, Stryd y Coleg, Rhydaman (gyferbyn a’r Orsaf Bysiau) ar Nos Fercher 8 Hydre fam 7pm.

Mae mwy o fanylion y daith feicio i’w gael ar http://www.fairtrade.org.uk/get_involved/news_events_and_urgent_actions/500_miles_for_500_towns_bike_ride.aspx

Yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus eraill yn Rhydaman megis ras gyfnewid banana Masnach Deg yr ysgolion, y banan split enfawr a’r sioe ffilmiau yn y sinema egni solar mae’r daith feicio yn siwr o fod yn lwyddiant a dod yn rhan o hanes Rhydaman drwy ddathlu cefnogaeth y gymuned i Fasnach Deg.

Dewch i ymuno a ni

Phil

No comments:

Post a Comment