Thursday 4 November 2010

O RHYDAMAN I GAERDYDD - Y DAITH FEICIO

Aeth popeth yn dda gyda digwyddiad Dydd Sul yn ysgol Dyffryn Aman, er roedd y disgrifiad “Diwrnod Hwyl Masnach Deg” yn well disgrifiad na “Croeso i’r Daith Feicio Masnach Deg” oherwydd roedd y rhan fwyaf o bobl wedi mynd adref cyn i’r beicwyr gyrraedd o’r Gelli. Roeddynt wedi teithio’r ffordd anoddaf a hiraf i gyrraedd Rhydaman.
Tra eu bod nhw wedi beicio 60 milltir o fryniau, roeddem ni wedi bod yn cael hwyl gyda CIRCUS ERUPTION yn cael pawb i jyglo a reidio beic un olwyn(neu trio o leiaf) ac roedd ONE PEOPLE PRODUCTIONS yn arwain gweithdai creu ffilm, a ffilmio ar gyfer ffilm rydym yn gobeithio ei dangos yn ystod Pythefnos Masnach Deg.
Roedd plant gyda camerau a pobl yn reidio beic un olwyn yn hyrddio ar draws y neuadd.. ond daethom i gyd allan yn fyw!!
Yn anffodus ni chawsom cymaint o bobl ac y buasem wedi ei gael petai hi ddim yn Noson Calan Gaeaf, ond roedd y stondinau wedi gwneud yn dda wrth i bobl feddwl am y Nadolig ac roedd hetiau a menyg masnach deg DRAGON’S GARDEN’s a cracyrs masnach deg a cardiau OXFAM yn gwerthu’n dda.
Roedd trefnu digwyddiad ar Noson Calan gaeaf yn amseru gwael i ni ond ar y llaw arall roedd yn golygu bod Henry Olonga yn y dref ar y diwrnod, yn siarad yn Eglwys Efengylaidd Rhydaman yn y bore ( un o’r eglwysi Masnach Deg mwyaf gweithgar). Arosodd ymlaen i ddod i’n digwyddiad ni. Chwaraewr criced gemau prawf, ymgyrchydd hawliau cymdeithasol, canwr, arlunydd, ffotograffydd ac ysgrifenwr. Yn ogystal roedd yn gallu jyglo, er roedd hyd yn oed Henry yn methu reidio’r beic un owyn, neu o leiaf roedd ddim eisiau i ni fod yn genfigenus .
Cyrraeddodd y beicwyr 10 munud cyn bod y gofalwr i fod i gloi lan, ac felly ni chawson nhw hyd yn oed cwpanaid o de cyn cyrraedd fy nhy i.
Cawson nhw groeso twymgalon gan y pobl oedd yn bresennol, gan gynnwys Maer y dref, Ray Spencer a oedd yn benderfynol o aros tan roedd wedi cael y cyfle o’u croesawu a'u  llongyfarch.

Yn ein ty ni cawsom gyfle i glywed am y reid feicio, gyda ambell gnoc ar y drws gan “ysbrydion a zombies” a gafodd llygaid siocled CO-OP neu Geo bars traidcraft.
Cafodd y beicwyr y cyfle i gwrdd a Toby a John o’r Fairtrade Foundation a oedd yn aros y nos yn barod ar gyfer codi’n gynnar i feicio’r cymal nesaf o’r daith.

Y bore wedyn roedd pethau fel ffair drwy geisio cael 4 plentyn yn barod i’r ysgol, 4 oedolyn yn barod ar gyfer y daith feicio, a hynny i gyd erbyn 8.30 y bore! Ond fe lwyddon ni a cael brecwast gwerth chweil hefyd wedi ei baratoi gan fy merch arbennig Rosa. (Dylwn ddweud yn y fan hyn fy 3 merch arall yn arbennig hefyd). Ond Rosa oedd wedi coginio’r muffins, teacakes a brechdannau cig moch veggie, felly ar y diwrnod hwn hi oedd ffefryn pawb wrth fwyta.
Roedden ni’n meddwl bod gennym sialens i gyrraedd caffi cymunedol i-SMOOTH erbyn 8.30. ond roedd, Mike wedi codi cyn 6.00am i reidio 26 milltir o’i gartref jyst i gyrraedd dechrau’r reid feicio!
Hefyd yno i reidio oedd Ian a Phil o Gyngor Sir Caerfyrddin, ac Alan Cram, cefnogwr Masnach Deg a boi da, a ffrind dau o sefydlwyr Grwp Masnach Deg tref Rhydaman Annette a Dewi. Ymysg y rhai oedd yno yn cefnogi oedd Yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas a’r Cynghorydd Tref Jane Potter, sy’n dangos y gefnogaeth wleidyddol eang mae Masnach Deg yn lwcus o’i dderbyn yn Rhydaman.
Ar ol sefyll i dynu llun roedd y beicwyr ar eu taith a neidodd Clare a minnau i mewn i’r car i ddilyn. Roedden ni i fod yn gefnogaeth iddynt ond y gwir yw mai teithio o gaff i gaffi oedd ein gwaith a cwrdd a’r beicwyr ar pob stop. O leiaf roedd Clare yn gweithio’n galed yn gyrru a ffilmio. Roeddwn i yn cael fy nghludo o fan i fan ac yn bwyta cacennau. Roeddwn yn teimlo’n falch pan ges i alwad gan yr Evening Post ar y ffordd i Gaerydd, o leiaf roeddwn wedyn yn gallu dweud fy mod wedi gwneud peth gwaith ar y cyfryngau ar y ffordd!

Y stop cyntaf wedi Rhydaman oedd Bikeability yng Nglwb Rygbi Dunvant. Mae’r sefydliad wedi ei greu ar gyfer pobl o pob gallu i fwynhau beicio ar feiciau arbennig, gan gynnwys rhai llaw, tair olwyn, go karts, quads, tandem a cludwyr cadair olwyn.
Ymunodd David, Colin and Rob yma ar ol trio beiciau Bikeability yn gyntaf, oedd yn golygu bod Rob wedi disgyn oddi ar un beic cyn cychwyn y daith!
Stop i orffwys oedd hwn i fod i’r beicwyr ond roedd yn rhaid iddynt hwythau hefyd drio’r amrywiaeth o feiciau oedd ar gael. Roedd Clare yn ffilmio ( a sori Rob ond mae hi wedi dy ddal yn cwympo) Roeddwn i yn brysur yn bwyta cacen.
Yna ymlaen i lawr y llwybr beicio i Bae Abertawe. Wythnos cyn hyn roeddwn i a Clare yn y Swyddfa Gofrestru, ger y llwybr beicio, ym mhriodas chwaer Clare yn mwynhau awyr las di gwmwl. Roedd yn ormod i obeithio cael tywydd cystal ar gyfer y daith feicio a’r briodas, ond er y siawns o hyn ddigwydd a hanes Abertawe am dywydd digon gwael, cawsom ddau ddydd Llun bendigedig, un ar ddiwedd Hydref a’r llall ar ddechrau Tachwedd.
Ymunodd pawb gydai gilydd eto am fwy o de a chacen a cyfle tynnu lluniau yn y Ganolfan Amgylcheddol yn Abertawe, lleoliad llawer o bethau da, gan gynnwys Fforwm Masnach Deg Abertawe.
Aeth Phil ac Ian yn ol o fan hyn i Rhydaman ar y tren ac aeth Alan i ffwrdd er mwyn mynd i weld ei deulu yn Lloegr. Yn ymuno oedd Brian, i orffen y rhestr arbennig o reidwyr!

Byddai wedi bod yn dda aros yn un o gaffis masnach deg Abertawe am ginio ond roedd yn bwysig cyrraedd Port Talbot erbyn amser cinio. Felly dyma benderfynu galw yn TESCO Port Talbot, nid am ei ddewis o’r fwydlen ond er mwyn cwyno am y diffyg diodydd masnach deg yn y caffi. Roeddwn wedi defnyddio fy cardiau post Fairtrade Foundation yn dweud “Annwyl Rheolwr, A fyddech mor garedig a chyflenwi mwy o nwyddau Masnach Deg” yn y digwyddiad yn yr ysgol ar ddydd Sul, felly dyma lenwi holiadur yn lle ac anfon tects rhad ac am ddim i 80072 yn dweud “Rydym yn rhan o’r daith feicio Masnach Deg 500 milltir. Wedi stopio yn Port Talbot am ginio OND roedd dim diodydd MASNACH Deg ar gael yn y caffi!.” (Gallech chi wneud hyn hefyd yn eich siop TESCO leol!)

Am wahaniaeth oedd y stop nesaf sef y Living Café yn y Bontfaen. Caffi Masnach Deg hyfryd. Mae llawer o gaffis yn cynnig te a choffi masnach deg ond roedd hwn yn mynd llawer yn bellach gyda danteithion melys masnach deg o bob math. Gallaf ddim credu o edrych yn ol mai dim ond bar tenau Cadbury’s fwytais i! Efallai wrth i filltiroedd y beicwyr gynyddu roeddwn yn teimlo’n fwy euog! Roedd John yn wir haeddu y ddau ddarn o gacen moron a gafodd yntau.
Yn drist mae’n ymddangos bod safle y Living Café ar dir mae WAITROSE eisiau adeiladu arno, ac efallai y cawn nhw eu gyrru allan. Gwell i WAITROSE wneud yn siwr fod ganddyn nhw well gaffis masnach deg na TESCO os ydynt am wthio caffi cystal a’r Living Café. (Nid yw’r frwydr drosodd eto a gobeithio bydd y Living Café yn aros …. Ond rhag ofn – ewch yno a dweud wrthynt os mae nhw’n cael eu dymchwel bydd yn rhaid iddynt agor yn rhwyle arall yn gloi).
Yn y Living Café cafodd John alwad gan rhywun yn gweithio gyda cynhrychwyr siwgr o Belize. “Dywedodd wrthyn nhw am y reid feicio” ac roedd y cyswllt masnach deg rhwng yr ymgyrchwyr i’r cynhyrchwyr i’r nwyddau crai i’r cynnyrch gorffenedig a’r gwerthiant wedi ei ddangos yn berffaith mewn un galwad ffôn.

Wedi eu ysbrydoli gan yr alwad ffôn ymlaen a nhw wedyn i’r croeso yng Nghanolfan y Mileniwm.
(Rhaid nodi yma bod y daith, sef y milltiroedd a’r amseriad a wnaeth David Naylor a David Judd yn gywir bron i’r funud!)

Yng Nghaerdydd cafodd y beicwyr longyfarchiadau haeddiannol a rhagor o luniau. Roedd Clare yn dal i ffilmio ac reoddwn i yn dal i fwyta browni masnach deg!

(am fwy o wybodaeth am y daith gyfan ewch i http://www.thefairtradefoundation.blogspot.com/  )

Phil Broadhurst
Grwp Masnach Deg Rhydaman

O.N Y diwrnod canlynol wnaeth y Gweinidog yr Amgylchedd Jane Davidson, a oedd yng Nghanolfan y Mileniwm siarad am y daith feicio mewn cynhadledd cerdded a beicio. Mae gwerth y daith yn parhau.

No comments:

Post a Comment