Saturday 11 December 2010

DANGOSWCH EICH LABEL - Pythefnos Masnach Deg 2011

Mae testun a dyddiadau Pythefnos Masnach Deg 2011 wedi eu cyhoeddi. Flwyddyn diwethaf welson ni dros miliwn o bobl yn swapio nwyddau ar gyfer rhai Masnach Deg yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Roed dhwn yn neges gryf bod pobl Prydain eisiau tegwch i gynhyrchwyr sy’n paratoi ein nwyddau.


Blwyddyn nesaf byddwn yn mynd a’r stori ymhellach ac yn esbonio pam. Wrth glodfori Masnach Deg, byddwch yn esbonio pwysicrwydd Masnach Deg i’r cynhyrchwyr, yn dangos manteision derbyn premiwm Masnach Deg ar gyfer eu cymunedau lleol a sicrhau dyfodol mwy sicr.

Mae Masnach Deg yn trawsnewid bywydau miliynau o deuluoedd ffermwyr mewn gwledydd datblygol ac mae hyn oherwydd ymrwymiad cefnogwyr Masnach Deg, pobl a cwmniau ar draws y byd sy’n cadw’r nwyddau. Felly beth am frolio atynnu sylw at Fasnach Deg ac wrth wneud hynny annog eraill i ddilyn eich hesiampl.

No comments:

Post a Comment