Tuesday 8 February 2011

Pythefnos Masnach Deg yn YSGOLION Sir Gâr - 2011

I roi cychwyn tan gamp i’r Pythefnos Masnach Deg yn Sir Gâr bydd Wyn Wlliams, Pennaeth y Gwasanaethau Addysg, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanddarog i godi’r faner Fasnach Deg gyntaf i’w dyfarnu i ysgol gynradd yn y sir.

Bydd y Gwasanaeth Prydau Ysgol yn cyfrannu at y dathliadau a bydd pwdinau Masnach Deg ar gael yn yr ysgolion cynradd.
“Cotwm” yw thema’r Pythefnos Masnach Deg eleni. Mae’r Gymdeithas Fasnach Deg wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i ysgolion, y gellir ei gyrchu drwy fynd i’r wefan isod:
http://www.fairtrade.org.uk/includes/documents/cm_docs/2010/s/schools_action_guide_insert_f14_2011.pdf

Fflagiau Cotwm

Yn ystod y Pythefnos Masnach Deg hwn, un o’r ffyrdd o roi sylw i Fasnach Deg fydd paentio, darlunio, neu wnïo fflagiau cotwm Masnach Deg i gyfleu’r hyn y mae Masnach Deg yn ei olygu i chi. Wedyn rydym am i bobl hongian y fflagiau mewn mannau amlwg lle bydd llawer o sylw’n cael ei roi iddynt – yn eich digwyddiad lleol, yn eich siop, neu yn rhywle mwy cyhoeddus.
Pan fydd y Pythefnos Masnach Deg ar ben, rydym yn mynd i bwytho’r fflagiau i gyd at ei gilydd mewn ymgais i dorri record y byd am y rhes hiraf o fflagiau, er mwyn helpu i ddweud wrth ragor o bobl am sut mae cotwm Masnach Deg yn diogelu bywoliaeth ffermwyr cotwm yng Ngorllewin Affrica ac India.
I gael eich fflagiau Masnach Deg am ddim neu i gael rhagor o wybodaeth, gweler y wefan isod:

No comments:

Post a Comment