Sunday 10 April 2011

Cyhoeddi Hoff Baned Masnach Deg Cymru

Mae pencampwr Masnach Deg newydd wedi dod i’r amlwg yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2011. Coffee Culture yn Llandudno sydd wedi dod i’r brig mewn pleidlais genedlaethol i ddod o hyd i hoff baned Masnach Deg Cymru.

Cynhaliwyd ‘Pleidlais Hoff Baned Masnach Deg Cymru’ gan Ganolfan Cydweithredol Cymru er mwyn cael gwybod i ble mae pobl yn mynd er mwyn mwynhau eu hoff baned foesegol.

Y pum caffi mwyaf poblogaidd oedd

Coffee Culture Llandudno, 79 Stryd Mostyn, Llandudno, Gwynedd. LL30 2NN.
Coffee Culture Abertawe, 17 Stryd Rhydychen, Abertawe, . SA1 3AG.
The Red Café, 644-646 Heol y Mwmbwls, Y Mwmbwls, Abertawe. SA3 3EA.
The Herb Garden, 5 Spa Centre, Station Crescent, Llandrindod, Powys. LD1 5BB.
The Embassy Café, 36 Cathays Terrace, Caerdydd, . SA1 3AG.

Da gweld bod dau o rhain o fewn cyrraedd agos i ni yn Rhydaman.

No comments:

Post a Comment