Monday 21 November 2011

Llwybrau Masnach Deg


Mae Grwp Masnach Deg Rhydaman wedi derbyn £500 oddi wrth Cymru Masnach Deg i ddatblygu’r syniad o Llwybrau masnach Deg yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth tim Adran Gwledig y Cyngor Sir rydym wrthi yn gorffen Llwybr Masnach Deg wedi ei chyfeirbwyntio o Rhydaman i Gaerfyrddin gan fynd trwy Llandeilo. Pan fyd dy trefniadau i gyd wedi gorffen byddwn yn trefnu taith agoriadol i lansio’r llwybr cyntaf Masnach Deg yng Nghymru. Gobeithir i ddisgyblion ysgol Dyffryn Aman drefnu taflenni i hysbysu’r llwybr. Yn ogystal a taflenni byddwn yn paratoi thai ar gyfer y rhyngrwyd er mwyn i  ymgyrchwyr eraill o amgylch Prydain eu defnyddio, gan ddangos sut gall grwpiau ddefnyddio’r syniad o Lwybrau masnach Deg yn eu cymunedau.

 Mae gennym syniadau eraill ar gyfer teithiau hefyd. Sef

·         Taith Meithrin o Ysgol Feithrin Rhydaman i’r Co-Op, gan edrych o amgylch y siop am nwyddau Masnach Deg

·         Ar hyd y Ffin – taith masnach Deg o amgylch ffin tref  Rhydaman

·         Siwrnai Tren i Llandrindod – gan rhoi sylw i “trolley” diodydd twym Mansach Deg ARRIVA

·         Taith masnach Deg o amgylch Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.

No comments:

Post a Comment