Wednesday 11 January 2012

Pythefnos masanch Deg – Byddwch yn rhan o’r dathlu

27 Chwefror - 13 Mawrth
Mae Pythefnos Masnach Deg 2012 ar y gorwel ac rydym eisiau i hon fod yr un orau eto – gyda eich cymorth chi gallen ni wireddu hyn!
Mae Pythefnos masnach Deg yn amser i godi ymwybyddiaeth am yr angen am ffordd decach i fasnachu, cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd a dathlu ymroddiad Cymru fel Gwlad Masnach Deg gyntaf  y Byd
Rydym wrthi’n trefnu rhaglen cyffrous o weithgareddau a digwyddiadau yma yn Rhydaman ac ar draws Cymru gyfan. Bydd digon o gyfleoedd i chi fod yn rhan ohono:


Ø Gwirfoddoli
Ydych chi’n hollol ymroddiedig dros Fasnach Deg? A hoffech gefnogi digwyddiad Masnach Deg yn eich ardal? Yna beth am ymuno yn yr hwyl a gwirfoddoli yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Gallech roi awr, diwrnod neu beth bynnag yr ydych eisiau. Cysylltwch a ni ar
riversidepicnic@yahoo.com

Ø  Internship Pythefnos Masnach Deg
Ydych chi eisiau mynd un cam ymhellach? Yna gallech chi wneud cais am internship gyda Cymru Masnach Deg a derbyn profiad gwerthfawr o weithio gyda ymgyrch Masnach Deg. Os oes gennych ymroddiad i Fasnach Deg ac yn teimlo bod gennych beth sydd angen i gefnogi ymgyrch cyffrous dros y misoedd nesaf yna gall internship Masnach Deg fod yn addas i chi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a
https://docs.google.com/a/fairtradewales.org.uk/spreadsheet/viewform?hl=en_US&formkey=dG1Sc3RyNnpidG53SWhPTENEUV9WaEE6MQ#gid=0

No comments:

Post a Comment