Monday 28 May 2012

Wrth i'r Fflam Olympaidd deithio drwy Gymru yr wythnos hon, y wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd, ac yn mynd trwy 33 Tref masnach Deg Cymreig, mae'n gyfel perffaith i dynnu sylw at ymrwymiad i Fasnach Deg gan  Locog (London Organising Committee of the Olympic and Paralympic Games).
Bydd yr holl de, coffi, siocled twym, siwgr a bananas sy'n caele i weini i'r athletwyr a gwylwyr yn rhai Masnach Deg.

Mae gwerthiant nwyddau masnach Deg ar i fyny 12% er bod gennym ddirwasgiad, sydd yn dangos bod pobl yn poeni o ble y daw eu bwyd a lels y pobl sydd yn eui gynhyrchu.

Mae ymrwymiad Locog yn cael ei adlewyrchu gan Llywodraeth Cymru sydd yn helpu gwella bywydau pobl rhai o wledydd tlotaf y byd, ond mae rhagor i'w wneud.

Wrth i lywodraeth Cymru ymgynghori ar y Bill Datblygiad Cynaladwy (sydd i'w groesawu yn fawr) byddai hi yn gyfle delfrydol i ddatblygu ein ymrwymiad a sicrhau bod Cymru yn parhau ei statws fel Gwlad Masnach Deg cyntaf y byd.  

ELEN JONES

No comments:

Post a Comment