Sunday 6 October 2013

TAITH GYNTAF FFORDD MASNACH DEG RHYDAMAN – ABERTAWE – DYDD MERCHER - 16 HYDREF 2013

Yn dilyn llwyddiant y daith gerdded ar hyd Ffordd Masnach Deg Rhydaman i Gaerfyrddin rydym nawr yn cerdded y daith o Rhydaman i Abertawe. Mae’r daith yn defnyddio rhannau o Llwybr Sant Illtyd, Llwybr Gwyr, Llwybr 4 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r Llwybr Arfordirol Cenedlaethol.  Cysylltwch a Phil ar riversidepicnic@yahoo.co.uk  Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a’r daith.
 
Mae Dydd Mercher 16 Hydref yn Ddiwrnod Bwyd Y Byd 2013. Am fwy o wybodaeth ewch i   www.fao.org/getinvolved/worldfoodday
 
Bydd ein taith yn uno gyda’r thema yma, yn lleol a rhyngwladol, gan wneud smoothies banana ar beiriant gwneud smoothie sydd wedi ei bweru gan feic mewn caffi lleol, yna cysylltu trwy “Skype” gyda chynhyrchwyr masnach deg o amgylch y byd.
 
 Trefn y dydd:
9.00am – ymgasglu yng nghaffi iSmooth, Stryd y Coleg, Rhydaman.- gwneud smoothies gyda beic!
Cerddwyr yn gadael am 9.30. Cefnogwyr yn parhau i wneud smoothies!
Tua 1.00pm – stopio am ginio yn Co-op Pontarddulais
Tua 4.30  – Te yn Bikeability www.bikeabilitywales.org.uk
Tua 7.00 – Cyrraedd y Ganolfan Amgylcheddol ble bydd aelodau o Fforwm Masnach Deg Abertawe yn cynnal pryd o fwyd o 5.00 ymlaen. Hefyd bydd yna luniaeth ar gyfer y cerddwyr yn ogystal a hufen traed LUSH ar gyfer massage!
 
Mae’r rhan gyntaf o’r daith yn cynnwys allt (tyle) hir – er os yw’r tywydd yn niwlog yna byddwn yn aros ar lawr y dyffryn. Mae’r daith o Bontarddulais i Abertawe yn fflat, ar hyd llwybrau beicio yn bennaf.
Os nad ydych eisiau cerdded y daith gyfan yna llefydd da ar gyfer  dechrau neu orffen yw Pontarddulais a’r Junction, Blackpill (ble mae’r lllwybr beicio yn ymuno a’r arfordir. Maent wedi ei gwasanaethu gan fysiau cyson.
Mwy o fanylion am Y sgwrs Skype gyda masnachwyr Masnach Deg i ddilyn – yn ogystal a datblygiadau cyffrous eraill i ddilyn!

No comments:

Post a Comment