Sunday 23 March 2014

LLWYDDIANT YSGUBOL UNWAITH ETO

Roedd pythefnos masnach deg eleni rhwng 24 Chwefror a 9 Mawrth.

Unwaith eto roedd yn lwyddiant aruthrol yn Rhydaman. Caswom nifer o ddigwyddiadau. Wrth gwrs pinacl y pythefnos oedd y Banana Split enfawr oedd eleni yn cael ei chynnal am y chweched tro.

Cafodd Tref Masnach Deg Rhydaman ei gynrychioli'n dda yng Ngŵyl Masnach Deg Foncho ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe .

Roedd Caffi Cymunedol iSmooth yno yn gwneud smoothies wrth i bobl reidio beic i bweru y peiriant gwneud ssiodydd, ac roedd siopau Masnach Deg lleol Bertram, Harmony a Catherine Blair gyda stondinau.

No comments:

Post a Comment