Thursday 22 January 2015

Mae2015 yn mynd i fod flwyddyn fawr arall yn hanes Grŵp Masnach Deg Rhydaman ...

Mae'n bosibl y byddwn ... dim ond efallai ... croesi bysedd ... o'r diwedd yn cael arwydd ffordd i adael i bobl leol ac bobl sy'n mynd heibio wybod mai Rhydaman Yw’r Dref Masnach Deg gyntaf yng Nghymru!

Byddwn (rhai ohonom: nid oes rhaid i bawb ymuno !!) yn cerdded 100 milltir o Rydaman i Gynha...
dledd Trefi Masnach Deg Ryngwladol ym Mryste ym mis Gorffennaf.

A bydd ein Banana Sblit Masnach Deg blynyddol (ar Gwener 6 Mawrth eleni) yn dod yn rhan o ŵyl amlddiwylliannol rhyngwladol ehangach yn Rhydaman, a fydd yn cael ei rhedeg o Ddydd Gwyl Dewi i'r Pasg.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn i gyd ... Dewch draw i'n cyfarfod Grŵp Masnach Deg Rhydaman nesaf ar Iau 29 Ionawr am 7pm yn Eglwys Efengylaidd Rhydaman yn Stryd y Gwynt.

Croeso i Bawb ... Pasiwch y neges yma ymalen i unrhyw un sydd yn eich barn chi allai fod â diddordeb mewn dod draw.

Diolch yn fawr Iawn,

Phil / Grŵp Masnach Deg Rhydaman

No comments:

Post a Comment