Sunday 8 March 2015

LLWYDDIANT YSGUBOL ARALL - BANANA SBLIT 2015

 
Cafodd Arcêd Stryd y Coleg  Rhydaman ei  drawsnewid unwaith eto i mewn i balas gwledda masnach deg terfysglyd ar ddydd Gwener, gan fod plant y dref wedi casglu i adeiladu a difa Banana Split Masnach Deg 100 troedfedd o hyd.
Profoddd y digwyddiad blynyddol, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn,  i fod mor boblogaidd ag erioed, gyda torfeydd yn sarnu allan ar y piazza, lle'r oedd atyniadau ychwanegol o sesiynau sgiliau syrcas rhad ac am ddim, stondin Comic Relief a siop Masnach Deg symudol Popcycle.

Trefnwyd y digwyddiad gan Grŵp Masnach Deg Rhydaman, rhoddwyd y bananas Masnach Deg gan y Co-operative, yr  hufen iâ gan Franks, a’r  landeri i ddal y cyfan  gan LBS.

Dywedodd aelod o'r Grŵp Masnach Deg Phil Broadhurst: "Roedd yn ddigwyddiad cymunedol da iawn arall, gyda phawb yn dod at ei gilydd i ddathlu Masnach Deg."

Digwyddiad nesaf y Grŵp Masnach Deg fydd Taith Gerdded Masnach Deg, o Frynaman i Rydaman, gan ddechrau yn Siop Laria, ac yn dod i ben yng Ngŵyl Amrywiaeth Twrch Trwyth yn Rhydaman yn Stryd y Cei ar ddydd Sadwrn 21ain o Fawrth
 

No comments:

Post a Comment