Thursday 12 November 2009

FFORDD MASNACH DEG


Ymunodd Phil Boradhurst, aelod o Grwp Masnach Deg Rhydaman gyda aelodau o Grwp Masnach Deg Garstang wrth iddynt gerdded llwybr newydd o Garstang, y tref Masnach Deg cyntaf yn y byd, trwy trefi Masnach Deg yn Swydd Caerhirfryn ac ardal y llynnoedd i Keswick.


Mae’r cerddwyr yn gobeithio bydd Y Ffordd Masnach Deg yn fodd o hyrwyddo nwyddau Masnach Deg sydd yn gwarantu prisiau teg ac amodau gweithio da i gynyrchwyr y trydydd byd.


Hefyd gobeithir y bydd Cerddwyr yn llenwi eu fflasgiau gyda te, coffi a siocled twym Masnach Deg. Dywedodd Phil “Mae gan Gymdeithas y Cerddwyr dros 135,000 o aelodau. Dychmygwch yr effaith byddai hyn yn ei gael ar werthiant Masnach Deg petai dim ond hanner rhaion yn llenwi eu fflasgiau gyda te, coffi neu siolced twym masnach Deg tra’ n mynd ar daith gerdded.”


Ychwanegodd Phil “ Tra’n dod o Dref Masnach Deg cyntaf Cyrmu roedd yn hyfryd cyfarfod a pobl a ddechreuodd yr ymgyrch Trefi Masnach Deg. Gwnaethon ni gysylltiadau gwerthfawr ac rydym yn edrych tuag at datblygu estyniad o’r Ffordd Masnach Deg a dod a hi i mewn i Gymru. Gobeithio byddwn yn cael grwp Garstang a llawer o grwp Cerddwyr eraill yn cerdded trwy Rhydaman yn fuan."

No comments:

Post a Comment