Friday 21 January 2011

Dechrau trefnu Pythefnos Masnach Deg 2011

Hi Cefnogwyr Masnach Deg Rhydaman,


Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd – sy’n golygu ei bod yn amser dechrau meddwl am Pythefnos Masnach Deg 2011!
Bydd Pythefnos Masnach Deg eleni ar Llun 28 Chwefror – Sul 13 Mawrth – sy’n cynnwys Diwrnod Y Trwynau Coch Comic Relief ar 18 Mawrth.
A fyddai unrhyw un sy’n trefnu unrhyw ddigwyddiad neu sydd angen cymorth ar gyfer cynllunio digwyddiad, gysylltu a Phil Broadhurst cyn gynted a phosib – riversidepicnic@yahoo.co.uk
Os oes yna ysgolion sy’n cynllunio digwyddiadau, er nad ydynt yn agored i’r cyhoedd a fyddech mor garedig a gadael i ni wybod. Bydd hyn yn ein cynorthwyo pan yn adnewyddu ein cais am Statws Tref Masnach Deg.
Os hoffech i ni hyrwyddo eich digwyddiad fel rhan o rhaglen Pythefnos Masnach Deg yna gadewch i ni wybod.

Rydym yn gobeithio cynnal ein Banana Split Enfawr blynyddol yn yr Arcade unwaithe to. Hefyd bydd y ffilm “Small Revolutions” ar gael i’w dangos. Mae’r ffilm yn cynnwys Diwrnod hwyl Ysgol Dyffryn Aman ac yn dilyn y beiwcwyr oedd ar y daith 500 milltir Masanch Deg wrth iddynt fynd o i-Smooth i Ganolfan y Mileniwm, Caerdydd. Cysylltwch a Phil os hoffech ei dangos – mae tua 10 munud o hyd.
Am fwy o wybodaeth am Pythefnos Masnach Deg, neu i archebu bunting masnach deg i helpu creu record byd a hyrwyddo neges Masnach Deg ar draws y byd yna ewch i http://www.fairtrade.org.uk/

No comments:

Post a Comment