Monday 17 January 2011

Newid i Amcan dau yn ymgyrch Trefi Masnach Deg

Mae’r Sefydliad Masnach Deg yn holi barn cefnogwyr ar sut y dylet osod y meini prawf ar gyfer Trefi Masnach Deg o ran canolfannau Masnach Deg. Y maen prawf presennol yw bod siop yn gwerthu dau eitem masnach deg, ond bellach oherwydd bod kit-kat a dairy milk yn fasnach deg mae hyn llawer yn rhy hawdd ac ddim yn golygu llawer. Yn wir gall nifer o siopau fod yn gwerthu’r nwyddau heb feddwl am Fasnach Deg. Wrth gwrs mae’n beth da bod nwyddau masnach deg yn dod yn rhywbeth pob dydd, ond mae angen newid ein targedau i gadw’r momentwm. Felly dyma holidaur yr hoffwn i chi ei lenwi i gasglu eich barn. Mae’n gyflym a hawdd i’w lenwi – ewch i


http://www.surveymonkey.com/s/DLNKLG5

No comments:

Post a Comment