Monday 20 February 2012

Digwyddiadau Masnach Deg

Banana split enfawr yn Rhydaman! Cynhyrchwyr cotwm masnach Deg yn cysgu mewn llenni cotwm yn Llandeilo!  ….. a llawer mwy!
Mae 2012 yn edrych yn flwyddyn brysur i grŵp Masnach Deg Rhydaman . Mae’r flwyddyn yn nodi deng mlynedd ers i’r dref ennill statws Masnach Deg. Yn ôl Phil Broadhurst, aleod o’r grŵp
“Ni oedd y Dref Masnach Deg gyntaf yng Nghymru, a’r pumed yn y Deyrnas Unedig. Nawr mae yna dros 500 tref Masnach Deg yn y DU, ac mae Cymru wedi dod yn wlad Masnach Deg gyntaf yn y byd. Dros y ddeng mlynedd diwethaf rydym wedi gweld ymgyrchoedd lawr gwlad fel un ni yn creu ymwybyddiaeth enfawr o’r marc Masnach Deg a beth mae’n sefyll amdano. Hefyd mae gwerthiant cynnyrch Masnach Deg wedi cynyddu’r enfawr.
Rydym yn bell o gael system masnachu deg yn y byd, ond mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn hyrwyddo Masnach Deg yn helpu pobl o amgylch y byd i weithio eu ffordd allan o dlodi. Mae’n rhywbeth werth ei ddathlu, a felly byddwn ni yn nodi ein degfed penblwydd gyda cyfres o weithgareddau drwy 2012.”
Y digwyddiad mawr cyntaf bydd y Banana Split Enfawr blynyddol a fydd yn gweld banana split 30 troedfedd o hyd yn cael ei adeiladu a’i fwyta yn gylfym yn arcade Stryd y Coleg, Rhdyaman ar 2il Mawrth am 6pm.

No comments:

Post a Comment