Tuesday 14 February 2012

Llwybr Masnach Deg

Un o’r priosectau mwyaf ar gyfer ymgyrchwyr eleni fydd datblygu rhywdwaith o Lwybrau masnach Deg ar draws Cymru.
Mae Phil Broadhurst, un o brif ymgyrchwyr Grwp masnach Deg Rhydaman wedi bod yn gweithio gyda Adran Hawl Tramwy Cyngor Sir Caerfyrddin i greu y Llwybr Masnach Deg cyntaf yng Nghymru, a fydd yn mynd o Rhydaman i Gaerfyrddin, gyda awgrym o aros noson yn Fronlas. Yn ol Phil –

“Mae’r syniad o lwybrau Masnach Deg yn cydio yn y dychymyg. Yn fuan bydd yna wefan ble gall pobl ffeindio gybodaeth am, a rhoi llwybr Masnach Deg eu hunain ifyny. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yna fwy o B&Bs yn Sir Gaerfyrddin a thrwy Gymru yn dilyn esiampl Fronlas amynd yn Fasnach Deg”.

No comments:

Post a Comment