Sunday 23 June 2013


Ffordd Masnach Deg Sir Gâr

Roedd plant Ysgol Feithrin Rhydaman ac Ysgol Bro Banw yn canu a dawnsio wrth i bedwar deg o gefnogwyr masnach deg ddechrau ar eu taith ar hyd Llwybr Masnach Deg Sir Gâr.

Llwybr sydd yn uno trefi masnach deg Rhydaman a Chaerfyrddin yw hwn.

Ymunodd staff o Co-op Rhydaman a Chaerfyrddin gyda gwirfoddolwyr Oxfam ac ymgyrchwyr masnach deg  o Abertawe a Sir Gaerfyrddin, ynghyd a myfyrwyr chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Aman i gerdded a chodi ymwybyddiaeth am fasnach deg.

 Roedd y daith yn cynnwys stop yng nghaffis masnach deg Trap a Dryslwyn, ac Ysgol Gynradd Llandeilo ble roedd band Samba’r ysgol yn croesawu’r cerddwyr.

Dywedodd Phil Broadhurst, trefnydd y daith

“Pan gyhoeddwyd y dyddiad ar gyfer y daith roeddwn yn disgwyl tua 4 neu 5 o ni gerdded. Mae’r ffordd wnaeth y syniad gydio yn wych. Mae’r nifer o bobl, ar draws y gymuned, sydd wedi ymateb mewn gwahanol ffyrdd wedi bod yn lwyddiant arbennig. Cawsom ysgolion, busnesau, grwpaiu cymunedol ac unigolion i gyd yn cymryd rhan”.

O’r dechrau yn caffi i-smooth Rhdyaman am 9 tan tua 12 awr wedyn roedd yr cerddwyr yn llawn hwyliau da ac yn rhoi taflenni allan ar hyd y daith i hyrwyddo masnach deg gan sicrhau bod y neges mai trwy fasnachu yn deg yw’r unig ffordd o sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch.

Am fwy o wybodaeth am y teithiau sydd yn rhan o Ffyrdd masnach Deg Cymru ewch i’r wefan –


 

No comments:

Post a Comment