Monday 10 June 2013

TAITH MASNACH DEG SIR GAERFYRDDIN

MERCHER 19 MEHEFIN
TAITH MASNACH DEG SIR GAERFYRDDIN
Bydd cefnogwyr Masnach Deg, ac mae croeso cynnes i bawb, yn cerdded y Taith Masnach Deg Sir Gaerfyrddin, sydd yn rhedeg o Rhydaman i Gaerfyrddin, trwy Llandeilo. Byddwn yn cyfarfod yng nghaffi cymunedol i-smooth yn stryd y Coleg, Rhydaman o 9.00am, er mwyn gadael o du allan i’r Co-op am 9.30 Dewch a fflasg wag i i-smooth er mwyn ei llenwi gyda te masnach deg, neu goffi neu siocled twym.
Byddwn yn stopi yng nghaffis cymunedol Trap a Dryslwyn, a bydd band samba yn cerdded gyda ni trwy Llandeilo. Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl tra’n ymgyrhcu dros Fasnach Deg.
Os ydych yn teimlo bod 20 milltir yn ormod pam na ddewch chi am ran o’r ffordd yn unig. Cysylltwch a n ii gael syniad o’r amserau. Cysylltwch a Phil at riversidepicnic@yahoo.co.uk

No comments:

Post a Comment