Monday, 25 February 2013

Yr Alban yn derbyn Statws Masnach Deg

Fair Trade Nation Status Achieved! images
LLONGYFARCHIADAU i Yr  Alban ar ennill statws Gwlad Masnach Deg.
Mae'r Alban wedi dod yn Wlad Masnach Deg ar ol llwyddo i gyrraedd ei tharged o gael y chwech dinas ac 18 o'i siroedd dderbyn statws Masnach Deg.
Dywedodd Martin Rhodes cyfarwyddwr Fforwm Masnach Deg yr Alban bod y newyddion yn wych ac yn dilyn esiampl Cymru drwy ddod yn un o'r Gwledydd cyntaf i dderbyn statws Gwlad Masnach Deg.

Friday, 22 February 2013


What is Fair Trade?


Fair Trade attempts to put more money and power back into small producers hands, through a fairer trading system.

Fair Trade applies to commodities such as coffee, tea and fruit, from developing countries. It isFair Trade Fortnight 2013 logo generally aimed at protecting producers who farm small areas of their own land but due to remoteness and market fluctuations, often do not even recover the cost of production.

The Fairtrade mark attempts to provide a safety net for producers by guaranteeing:
  • A minimum internationally agreed price. If the world price goes up so does the Fairtrade price, but the Fairtrade price remains stable if the market price falls
  • A social premium to invest in community development such as wells or clinics. Producers must be part of a democratic body such as a co-operative, so they can make decisions about this fairly
  • Safe and fair working conditions
  • Environmentally responsible and sustainable production methods

Beth yw Masnach Deg?

Fair Trade Fortnight 2013 logo
Mae Masnach Deg yn ceisio rhoi mwy o arian a grym yn ôl yn nwylo cynhyrchwyr bychain, trwy system fasnachu decach.

Mae Masnach Deg yn berthnasol i nwyddau megis coffi, te a ffrwythau, o wledydd datblygol. Mae wedi’i bwriadu ar y cyfan i ddiogelu cynhyrchwyr sy’n ffermio ardaloedd bychain o’u tir eu hunain ond sy’n aml, oherwydd pellenigrwydd ac amrywiadau yn y farchnad, yn peidio ag adennill y costau cynhyrchu hyd yn oed.

Mae’r nod Masnach Deg yn ceisio cynnig rhwyd ddiogelwch i gynhyrchwyr trwy warantu:
  • Isafswm pris y cytunwyd arno’n rhyngwladol. Os yw’r pris ledled y byd yn codi, yna codi hefyd y mae’r pris Masnach Deg, ond mae’r pris Masnach Deg yn aros yn sefydlog os yw pris y farchnad yn gostwng
  • Premiwm cymdeithasol i fuddsoddi mewn datblygu cymunedol megis ffynhonnau neu glinigau. Mae’n rhaid i gynhyrchwyr fod yn rhan o gorff democrataidd megis menter gydweithredol, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch hyn mewn modd teg
  • Amodau gwaith diogel a theg
  • Dulliau cynhyrchu sy’n gyfrifol a chynaliadwy o safbwynt amgylcheddol

Tuesday, 19 February 2013

Banana Sblit hiraf erioed yn Rhydaman!


Mae Rhydaman wedi adnewyddu ei statws fel Tref Masnach Deg a byddwn yn dathlu’n swyddogol yn ystod Pythefnos masnach Deg eleni, sydd i’w gynnal rhwng  25 Chwefror tan 08 Mawrth.
Hefyd yn ystod y pythefnos ar Nos Wener 8 Mawrth byddwn yn cynnal ein Banana Sblit Enfawr yn Arcade Stryd y Coleg, a fydd yn mynd ymhellach yn 2013!
Byddwn yn gosod y banana sblit am 5.45pm ac yna ei fwyta tua 6.00pm – Dewch a llwy!
Bydd gennym westai arbennig, sef Sandra Joseph, Ffermwraig Banana Masnach Deg o St Lucia! Bydd Sandra  yn siarad am ei bywyd fel ffermwraig banana masnach deg yng nghaffi cymunedol  i-smooth yn syth ar ôl y banana sblit – Croeso i Bawb