Tuesday 19 February 2013

Banana Sblit hiraf erioed yn Rhydaman!


Mae Rhydaman wedi adnewyddu ei statws fel Tref Masnach Deg a byddwn yn dathlu’n swyddogol yn ystod Pythefnos masnach Deg eleni, sydd i’w gynnal rhwng  25 Chwefror tan 08 Mawrth.
Hefyd yn ystod y pythefnos ar Nos Wener 8 Mawrth byddwn yn cynnal ein Banana Sblit Enfawr yn Arcade Stryd y Coleg, a fydd yn mynd ymhellach yn 2013!
Byddwn yn gosod y banana sblit am 5.45pm ac yna ei fwyta tua 6.00pm – Dewch a llwy!
Bydd gennym westai arbennig, sef Sandra Joseph, Ffermwraig Banana Masnach Deg o St Lucia! Bydd Sandra  yn siarad am ei bywyd fel ffermwraig banana masnach deg yng nghaffi cymunedol  i-smooth yn syth ar ôl y banana sblit – Croeso i Bawb

No comments:

Post a Comment