Friday 22 February 2013

Beth yw Masnach Deg?

Fair Trade Fortnight 2013 logo
Mae Masnach Deg yn ceisio rhoi mwy o arian a grym yn ôl yn nwylo cynhyrchwyr bychain, trwy system fasnachu decach.

Mae Masnach Deg yn berthnasol i nwyddau megis coffi, te a ffrwythau, o wledydd datblygol. Mae wedi’i bwriadu ar y cyfan i ddiogelu cynhyrchwyr sy’n ffermio ardaloedd bychain o’u tir eu hunain ond sy’n aml, oherwydd pellenigrwydd ac amrywiadau yn y farchnad, yn peidio ag adennill y costau cynhyrchu hyd yn oed.

Mae’r nod Masnach Deg yn ceisio cynnig rhwyd ddiogelwch i gynhyrchwyr trwy warantu:
  • Isafswm pris y cytunwyd arno’n rhyngwladol. Os yw’r pris ledled y byd yn codi, yna codi hefyd y mae’r pris Masnach Deg, ond mae’r pris Masnach Deg yn aros yn sefydlog os yw pris y farchnad yn gostwng
  • Premiwm cymdeithasol i fuddsoddi mewn datblygu cymunedol megis ffynhonnau neu glinigau. Mae’n rhaid i gynhyrchwyr fod yn rhan o gorff democrataidd megis menter gydweithredol, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ynghylch hyn mewn modd teg
  • Amodau gwaith diogel a theg
  • Dulliau cynhyrchu sy’n gyfrifol a chynaliadwy o safbwynt amgylcheddol

No comments:

Post a Comment