Monday 8 June 2009

CYNHADLEDD MASNACH DEG CYMRU

Gwnaeth cefnogwyr Masnach Deg Rhydaman ymuno â 150 o gynrychiolwyr ar draws y wlad yng Nghynhadledd Masnach Deg Cymru yng Ngholeg y Drindod Caerfyffrddin dydd Sadwrn ( 6 Mehefin). Yn y llun gwelir Amy Westlake, Pete Westlake, Hannah Reed (Fairtrade Foundation), Chris Dean, Phil Broadhurst.

Drwy gyswllt lloeren cafodd Chris Dean, aelod o grŵp masnach deg Rhydaman, gyfle i siarad â cynhyrchydd cocoa masnach deg yn Ghana o’r cwmni cydweithredol Kuapa Kokoo sydd yn cynorthwyo gwneud bariau siocled Divin a Dubble.

Roedd yn ddiwrnod o ddathlu oherwydd roedd Sir gaerfyrddin newyd dglywed ei bod wedi derbyn statws Sir Masnach Deg. Cyflwynwyd tystysgrif statws masnach deg i’r cynghorydd Pam Palmer gan Hannah Reed o Sefydliad Masnach Deg. Yn ogystal diolchodd Hannah Reed i gynrychiolwyr o grŵp Masnach Deg Rhydaman am hyrwyddo’r Ymgyrch Trefi Masnach Deg yng Nghymru. Rhydaman oedd y dref Masnach Deg gyntaf yng Nghymru yn 2002.


System masnachu teg yw Masnach Deg sydd yn gwarantu pris teg am eu cynnyrch i’r cynhyrchwyr a premiwm cymdeithasol i gynorthwyo cymdeithasau’r cynhyrchwyr i adeiladu gwell ysgolion, gofal iechyd a cylfeusterau dŵr glan. Os hoffai unrhyw un ddod yn weithgar gyda grŵp Masnach Deg Rhydaman yn cysylltwch a Phil Broadhurst ar 01269 596933

No comments:

Post a Comment