Friday 19 June 2009

DATHLU PENBLWYDD CYNTAF CYMRU FEL CENEDL MASNACH DEG

Mae Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, wedi dathlu pen-blwydd cyntaf Cymru fel Cenedl Masnach Deg.
Cymru oedd cenedl masnach deg gyntaf y byd ym mis Mehefin 2008, yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan Masnach Deg Cymru. Ariannwyd hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu’r ymwybyddiaeth ledled Cymru o gynnyrch masnach deg ac i annog ysgolion, busnesau a sefydliadau eraill i newid i gynnig cynnyrch masnach deg.
Ers dod yn Genedl Masnach Deg:
* mae 11 yn rhagor o drefi wedi sefydlu grwpiau Masnach Deg, sy’n golygu bod 70% o drefi Cymru bellach yn mynd ati eu hunain i gefnogi a hyrwyddo Masnach Deg
* mae cyfanswm o 600 o ysgolion bellach wedi eu cofrestru gyda’r Cynllun Ysgolion Masnach Deg (tua un o bob pump o holl ysgolion y DU sy’n rhan o’r cynllun)
* mae’r Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl Lenyddol y Gelli wedi cytuno i fabwysiadu polisïau Masnach Deg
* mae Trenau Arriva Cymru wedi newid i gynnig diodydd Masnach Deg ar bob un o’u gwasanaethau
* cymerodd dros 40,000 o bobl ledled Cymru ran mewn gweithgareddau i ddathlu Pythefnos Masnach Deg (23 Chwefror – 8 Mawrth)


Meddai Ms Davidson “Dylai Cymru fod yn falch mai hi oedd Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cynhyrchwyr, gan eu helpu nhw i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.
“Mae masnach deg yn cael effaith ym mhob cwr o’r byd. Mae’n gwarantu pris teg i ffermwyr mewn gwledydd datblygol am eu cynnyrch ac yn caniatáu iddyn nhw gynllunio at y dyfodol. Mae’n grymuso pobl i’w helpu eu hunain a hefyd mae’n ffordd i bob un ohonom chwarae ein rhan i Roi Terfyn ar Dlodi.”


Mae Masnach Deg yn gwarantu pris teg i ffermwyr mewn gwledydd datblygol am eu cynnyrch. Oherwydd bod y pris hwn yn un cyson, mae’n eu galluogi nhw i gynllunio at y dyfodol.
Mae Masnach Deg yn addo:
*Pris teg i gynhyrchwyr mewn gwledydd datblygol – digon i dalu cyflog y mae modd byw arno
*Dim llafur plant
*Amodau gweithio gweddus
*Diogelu’r amgylchedd
*Hawliau i fenywod
*Premiwm cymdeithasol – sy’n cefnogi prosiectau cymunedol fel adeiladu ysgolion a chlinigau iechyd

No comments:

Post a Comment