Saturday 1 August 2009

Diwrnod Hyfforddi - Gwirfoddolwyr Ysgolion Masnach Deg


Abertawe, 12fed Medi 10-5 lleoliad i'w gadarnhau mwy o fanylion ar http://www.fairtradewales.com/newyddion/gwirfoddolwyr_ysgolion_masnach_deg/989

Mae mynychu Diwrnod Hyfforddi Siaradwr Ysgolion yn gyfle unigryw i Wirfoddolwyr
Manach Deg rannu eu gwybodaeth a’u profiad a dysgu gan bobl eraill ynghylch siarad ar ran Masnach Deg Cymru wrth bobl ifanc.
Os ydych eisiau…
· Magu hyder wrth siarad gyda grwpiau ysgolion
· Canfod mwy am sut y gellir cynnwys Masnach Deg mewn gweithgareddau ysgolion
· Rhannu ymarfer da … yna dyma’r digwyddiad i chi!
Bydd y Diwrnod Hyfforddi’n cynnwys:
· Sesiynau gwybodaeth ynghylch Masnach Deg, Ymgyrch Cymru a throsolwg o Gynllun Ysgolion Masnach Deg
· Sesiynau bywiog yn dangos nifer o adnoddau a gweithgareddau rhyngweithiol Masnach Deg
· Gweithdy ar gyfer cyflwyno sgwrs, gan gynnwys adborth Paratoi
Gofynnir i chi ar y diwrnod i roi sgwrs 5 munud addas i grŵp oedran o’ch dewis chi. Os ydycheisoes yn gwybod ychydig am Gynllun Ysgolion Masnach Deg yna dylech gynnwys hyn yn eich sgwrs. Os nad ydych, gallwch roi sgwrs gyffredinol ynghylch Masnach Deg wedi’i hanelu at blant o oedran ysgol. Os, am unrhyw reswm, na allwch gyflwyno sgwrs, cysylltwch a mi. Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgu oddi wrth bobl eraill mewn awyrgylch lle gellir rhoi adborth cadarnhaol. Gofynnwn i chi gadw’ch sgwrs i ddim mwy na 5 munud.

No comments:

Post a Comment