Saturday 16 March 2013

Amser prysur i Sandra Joseph


Mae ffermwraig bananas masnach deg , Sandra Joseph wedi bod yn brysur iawn yn trafeilio o amgylch ysgolion Cymru yn rhannu’r neges dros Fasnach Deg. Tra’n ymweld ag ysgolion Sir Gaerfyrdin cafodd tipyn o sioc i glywed plant yn dweud eu bod wedi gweld coeden fanana, a’r peth rhyfeddaf oedd eu bod wedi ei gweld yn lleol!

Aeth Sandra i weld dros ei hunan. Ie mynd i’r gerddi Botaneg Cenedlaethol oedd angen. Roedd y rhan fwyaf o’r coed dal heb agor dros y gaeaf ond roedd un tu fewn i’r ty gwydr mawr yn dechrau dangos ffrwyth, ac roedd Sandra wrth ei bodd yn cael tynnu un llun yr oedd erioed wedi meddwl y byddai yn ei wneud pan adawodd ei chartref yn St Lucia.

No comments:

Post a Comment