Monday 11 March 2013

Banana i bawb o blant y sir


Bananas sydd ar feddyliau disgyblion Sir Gaerfyrddin.

Mae miloedd o blant cynradd y sir wedi bod yn gwledda ar y ffrwyth maethlon hwn a hefyd wedi bod yn dysgu o lygad y ffynnon beth yw bod yn ffermwr bananas.

Yn ystod Pythefnos Masnach Deg mae Sandra Joseph, sy'n ffermwr o Ddwyrain y Caribî, wedi bod yn ymweld ag ysgolion ledled y sir i roi cipolwg prin ar fyd sy'n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin.

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn, sy'n cael ei gynnal dros bythefnos, yn hyrwyddo telerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau cynaliadwy iddynt am eu cynnyrch. Hefyd nod y pythefnos yw hybu amodau gwaith teg a chynaliadwyedd lleol mewn llefydd lle mae hanes o wahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a lleiaf.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin dros Addysg a Gwasanaethau Plant: “Mae Pythefnos Masnach Deg yn gyfle perffaith i addysgu plant ynghylch o ble y mae gwahanol fwydydd yn dod ac ynghylch sut y maen nhw'n cael eu cynhyrchu? Ac rwyf am annog pobl i roi cynnig ar gynnyrch Masnach Deg nad ydyn nhw wedi ei brynu o'r blaen."

Yn ogystal bydd plant y sir yn bwyta bananas mewn prydau arbennig sy'n cael eu gweini i nodi Pythefnos Masnach Deg rhwng Chwefror 25 a Mawrth 10.

Dywedodd Sandra Weigel, Rheolwr y Gwasanaethau Arlwyo: “Mae'n bwysig ein bod yn dangos ein cefnogaeth i Fasnach Deg am ei bod yn berthnasol iawn i'n hymdrechion i ddarparu prydau ysgol sy'n iachus ac yn faethlon gytbwys, ac sydd hefyd yn sicrhau nad yw adnoddau'r ddaear yn cael eu hysbeilio.  Ar ben hynny mae'n werth cefnogi Masnach Deg am fod bananas a bwydydd iach eraill yn llesol inni.

Mae'n beth da fod y plant yn cael profi rhywbeth gwahanol, a'u bod yn dysgu am egwyddorion Masnach Deg."

Mae bananas yn tyfu yn y trofannau. Maent yn gyforiog o garbohydradau, a hefyd maent yn cynnwys potasiwm, ffosfforws, a fitaminau A a C.

No comments:

Post a Comment