Tuesday 5 March 2013

Plant yn paratoi i roi cynnig ar ginio cynaliadwy blasus


Bydd plant ysgol ledled Sir Gaerfyrddin yn cael dau ginio cynaliadwy yn hwyrach y mis hwn er mwyn cefnogi ymgyrch Pythefnos Masnach Deg eleni.

Mae Gwasanaeth Arlwyo'r Sir, sy'n rhan o'r Awdurdod lleol, yn coginio dau ginio arbennig er mwyn dathlu'r achlysur a fydd yn cael ei gynnal rhwng 25 Chwefror hyd 10 Mawrth.

Ddydd Llun, 25 Chwefror, gall disgyblion fwynhau spaghetti bolognaise cartref blasus gyda phys a bara garlleg ac yna i bwdin, banana Masnach Deg, hufen iâ a saws siocled poeth cartref.

Ddydd Llun, 4 Mawrth, bydd plant yn cael Korma Cyw Iâr neu Korma Quorn, reis cymysg, bara naan, pys neu gorn melys ac yna i ddilyn byddant yn cael sgon siocled Masnach Deg a sudd ffrwythau.

Mae Pythefnos Masnach Deg yn hyrwyddo telerau masnach deg i filiynau o ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae newid yn yr hinsawdd, costau cynyddol bwyd a thanwydd a phrisiau marchnad ansefydlog yn golygu eu bod yn wynebu dyfodol ansicr.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, sef Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y Cyngor: “Mae'n hanfodol bwysig bod plant yn dysgu o oed cynnar o ble mae eu bwyd yn dod a sut caiff bwydydd eu cynhyrchu.  Mae dewis a gofyn am gynnyrch Masnach Deg yn un ffordd o sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr yn gallu amaethu yn y dyfodol a chyda'n gilydd rydym yn gwneud cynnydd cyson ond mae angen inni gyrraedd mwy o bobl sydd angen bargen decach wrth fasnachu.

Mae'r bwydlenni wedi cael eu llunio'n arbennig gan ddefnyddio system Saffron sy'n mesur ansawdd maethol i'r milligram agosaf.

Meddai Sandra Weigel, Rheolwr y Gwasanaethau Arlwyo: “Roedd ymgyrch y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn gobeithio y bydd yr un eleni yn adeiladu ar hynny. 

“Mae'n bwysig ein bod ni'n dangos ein cefnogaeth i Fasnach Deg oherwydd mae'n ategu ein hymdrechion i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol sy'n iachus ac yn faethol. Yn ogystal, mae'n helpu i addysgu'r plant ynghylch moeseg Masnach Deg."

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Pythefnos Masnach Deg, ewch i www.fairtradewales.com

No comments:

Post a Comment